Clwb yr Henoed
BRAF oedd cael cwmni Thelma o Age Cymru mewn cyfarfod o Glwb yr Henoed bnawn Mawrth, 3 Mai. Croesawyd hi a’r aelodau gan y llywydd Eluned Parry.Gydag arddull hwyliog a chartrefol eglurodd Thelma y gwasanaethau a’r adnoddau a drefnir gan Age Cymru. Dywedodd ei bod yn ymweld â Chlybiau Henoed fel rhan o’i gwaith i ddangos a sôn am beth yn union sydd ar gael i hwyluso bywydau pobl hyn.Roedd wedi dod ag amryw o bethau gyda hi i’w dosbarthu ymysg yr aelo-dau, gan gynnwys bylbiau trydan, â’r cyfan yn dderbyniol iawn ac yn rhad ac am ddim.Cafwyd pnawn diddorol a mwynhaol yn ei chwmni a diolchwyd iddi ar ran pawb gan y llywydd.Gofalwyd am y baned ar y diwedd gan Lottie a Brenda Owen ac enillwyd gwobr y raffl gan Jane Roberts.Bydd y cyfarfod nesaf bnawn Mawrth, 7 Mehefin, ac edrychir ymlaen i groesawu Liz James, Llithfaen yn wraig wadd.
Oedfa
BYDD yr oedfa yng Nghapel Ebeneser y Sul yma, 22 Mai, am 11.15yb dan ofal y gweinidog, y Parch R O Roberts, Morfa Nefyn. Gweinyddir y Cymun.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.