Golygydd

Re: Ruth Dodsworth yn siarad allan mewn ymgais i helpu eraill.

Ysgrifennaf atoch i ddweud fy mod i wedi bod yn gwylio rhaglen This Morning ynddiweddar ble’r oedd Ruth Dodsworth, cyflwynydd tywydd ITV Cymru, yn siarad gyda Philip Schofield a Michelle Homles yn olrhain ei hanes o ddioddef rheoli ymddygiad gorfodol gan ei chyn ?r Johnathan Wignall mewn ymgais i helpu eraill sydd wedi bod trwy brofiad tebyg.

Mae’n rhaid i mi ddweud dw i’n edmygu Miss Dodsworth yn fawr iawn am fod mor ddewr.

Ar ran holl ddarllenwyr y Cambrian News hoffwn ddymuno pob lwc i Miss Dodsworth a’i theulu yn y dyfodol.

Rhian Jones Blaenau Ffestiniog

Have your say on the local issues affecting you - email [email protected] or join in the conversation on our Facebook page