Cynhaliwyd cystadleuaeth rygbi tag i ferched yn Y Bala wythnos diwethaf ar gyfer ysgolion Rhanbarth Meirionnydd.

Roedd dau dîm o Ysgol Godre’r Berwyn yn cystadlu; tîm Chloe a thîm Lexie.

Dechreuodd tîm Chloe yn araf yn y gystadleuaeth, ond gyda bob gêm gwnaethant fagu hyder a gorffenodd y tîm yn gryf a daethant gan ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth.

Aeth tîm Lexie un cam ymhellach gan lwyddo i ennill pob gêm yn y gynghrair i orffen ar y brig ac yna curo Ysgol OM Edwards 40-15 yn y ffeinal i gael eu coroni yn bencampwyr.

Roedd safon chwarae y tîm yn anhygoel a’r cyd-chwarae yn ffantastig ac yn werth ei weld, wrth iddynt sgorio 40 cais yn y broses. Yn ogystal, roedd agwedd, perfformiad ac ymroddiad pob disgybl yn wych.

Roedd y bechgyn yn cystadlu yn y gystadleuaeth taclo ac roedd pob un wedi cyd-chwarae yn arbennig a sgorio 29 o geisiadau.

Llwyddodd y garfan i guro y gynghrair i gyrraedd y ffeinal gan golli 25-15 i Ysgol OM Edwards ar ôl gêm ardderchog.