Mae 97% o staff Urdd Gobaith Cymru yn dweud eu bod nhw’n mwynhau eu swydd ac yn teimlo balchder o weithio i’r Mudiad.

Daw’r canfyddiadau yn dilyn arolwg ymysg y gweithlu a ddenodd ymateb gan 83% o staff, gyda thrawstoriad eang a chynrychiolaeth gyson a theg o bob adran.

“Rwy’n hynod o falch fod ein harolwg staff yn dangos fod yr Urdd yn datblygu a meithrin gweithlu hapus sy’n ymfalchïo yn eu gwaith,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Ein nod fel mudiad ydy creu diwylliant cadarnhaol o fewn ein gweithlu lle mae staff yn mwynhau dod i’r gwaith ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Staff yw asgwrn cefn gwaith bob sefydliad ac mae gan yr Urdd weithlu arbennig.

“Mae gwrando ar farn ein cydweithwyr yn hynod o bwysig, ac fel Mudiad byddwn yn parhau i wrando a gwerthuso er mwyn sicrhau fod ein staff yn hapus yn eu swyddi ac yn teimlo fod ganddynt yr adnoddau a chefnogaeth gorau i wireddu eu potensial.

“Gan gydnabod hefyd fod wastad lle i wella, byddwn yn parhau i edrych ar arferion da ynghyd â’r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith a lles ein staff.”

Mae prif ganfyddiadau’r arolwg fel a ganlyn:

  • 98% yn dod ymlaen yn dda gyda’u cyd-weithwyr.
  • 97% o staff yn mwynhau eu swydd.
  • 97% yn teimlo balchder o weithio i’r Urdd.
  • 96% yn teimlo bod cefnogaeth ar gael iddynt gan eu rheolwr llinell a thu hwnt.
  • 93% o’r gweithlu yn teimlo eu bod yn cael eu parchu o fewn y mudiad.
  • 93% yn derbyn cyfleoedd digonol i ddysgu a datblygu o fewn eu swyddi.

Mae’r ffigyrau hyn yn uwch na’r cyfartaledd ar draws y DU. Yn ôl adroddiad diweddar, 37% o weithwyr sydd wedi’u hysbrydoli gan waith, 81% sy’n adrodd perthynas da â chydweithwyr a 75% yn teimlo eu bod nhw’n cael eu parchu gan reolwyr.

Erbyn hyn mae’r Urdd yn cyflogi 362 o staff ledled Cymru, a 42% o’r gweithlu o dan 25 oed.