Merched y Wawr
MAE’R misoedd diwethaf wedi bod yn rai prysur i aelodau cangen Cylch Aeron.Yng nghyfarfod mis Mawrth, croesawyd Bethan Roberts o gymdeithas ‘Mind’ i roi i ni fraslun o’i swydd a’r gwaith amhrisiadwy a wneir ganddynt yng Ngheredigion. Ar ddydd Sadwrn, 23 Ebrill, cynhaliwyd ein gwibdaith flynyddol.Cychwynwyd gyda choffi yng Nghwm Cerrig, cyn cyrraedd Llanelli ac ymweliad i Dy Llanelli sydd newydd ei adnewyddu i’w ysblander blaenorol.Aethpwyd wedyn i stiwdio Tinopolis lle daeth Yvonne Evans o Aberaeron i gwrdd â ni, a mynd â ni o gwmpas, gan roi cyfle i weld yr holl ryfeddodau sy’n cuddio y tu ôl i’r camera.Diolch o galon i Yvonne am roi o’i hamser i ddod atom ni. Gorffennwyd y daith gyda phryd o fwyd blasus yng Ngwesty’r Llwyn Iorwg, Caerfyrddin.Diolch i’r swyddogion am drefnu taith mor ddifyr.Byddwn yn cyfarfod i drefnu rhaglen y flwyddyn nesaf ar nos Fercher, 15 Mehefin, am 7.30yh.Penie
lBYDD yr oedfa y Sul nesaf, 29 Mai, am 5yp. Disgwylir i bregethu y Parch John Tudno Williams.
Tabernacl
BYDD yr oedfa y Sul nesaf, 29 Mai, am 10yb gyda’r Parch John Tudno Williams yn gwasanaethu.Cynhelir y bore coffi misol yn y festri ar ddydd Iau, 2 Mehefin, am 10.30yb.Cynhelir taith y capel eleni ar ddydd Sul, 26 Mehefin, pan fyddwn yn teithio i Sir Benfro. Ceir manylion pellach oddi wrth Owenna James neu Heulwen Powell.Catholic ServicesTHERE will be a Mass on Sunday, 29 May, at the Holy Cross Catholic Church, Victoria Street, at midday.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.