Cyngor Cymuned
CAE Chwarae: Mae’n fwriad gan y cyngor edrych i mewn i gostau adeiladu wal gynnal rhwng y cae a thir The Wilds. Adroddwyd bod Mike Scott, y peiriannydd angen creu arolwg topograffig o’r llethr a bod angen mynd ar dir The Wilds er mwyn gwneud yr arolwg. Penderfynwyd gofyn i Mr Wetton am ganiatad i’r peiriannydd fynd ar ei dir; bydd y peiriannydd yn gallu rhoi pris am y gwaith o greu cynllun addas yn dilyn cael caniatad.Adroddwyd bod y pwyllgor cae chwarae yn awyddus i roi biniau ailgylchu yn y cae, a byddai hyn yn helpu eu cais grant i gronfa AHNE Llyn er mwyn gwneud gwelliannau i’r cae. Penderfynwyd cefnogi cais y pwyllgor ac i ofyn am fin ailgylchu cymysg ar gyfer y cae.Materion ffyrdd: Derbyniwyd lythyr gan Alun Roberts, y peiriannydd ardal yn egluro fel a ganlyn:Pont Pig y Rhos, Rhoshirwaun: Mae’r twll bellach wedi ei drwsio.Lôn Fryndol, Y Rhiw: Mae y gweithlu wedi archwilio y peipiau a darganfuwyd toriad yn y bibell wrth ei glanhau a dyma’r rheswm pam bod y dwr o’r ffos yn llifo i’r ffordd. Bydd y beipen yn cael ei thrwsio.Derbyniwyd adroddiad fel a ganlyn gan Dylan Wynn Jones, y swyddog trafnidiaeth:Croesffordd Anhegraig: Mae llythyr yn cael ei anfon i berchen-nog Plas y Wylan i ofyn iddo dorri y tyfiant sydd yn rwystr i welediad modurwyr.Mae y goeden onnen ger Siop y Bont, Llangwnnadl yn mynd i gael ei harchwilio gan swyddogion y cyngor.Safle cyn Ysgol Llidiardau: Derbyniwyd adroddiad gan Arfon Hughes, yr hwylusydd tai gwledig yn egluro bod cwmni Datrys wedi eu penodi i edrych i mewn i’r sys-tem carthffosiaeth sydd yn bodoli yno. Bydd yn adrodd am unrhyw ddatblygiadau cyn y cyfarfod nesaf.Adroddiad o archwiliad y fynwent:Adroddwyd bod rhai cerrig beddau yn rhydd gan gynnwys carreg Abraham Jones Thomas, Bodafon (sydd wedi ei rhoi i orwedd ar lawr), carreg Hugh a Nellie Parry, Bryn Mawr, carreg Eirwyn Williams, Cyll y Felin Bach, teulu Roberts, Pretoria ac hefyd Blod-wen Williams, Bodafon. Bydd y teuluoedd sy’n gyfrifol am y cerrig yma yn cael eu hysbysu.Adroddwyd bod tocyn pridd blêr yn y fynwent ac mae trefniadau wedi ei wneud i’w symud, mae rhan o wal derfyn, ochr y Coach House wedi disgyn, gofynwyd ei-sioes i berchnogion y Coach House ei thrwsio. Nid yw’r to wedi ei drwsio eto ac mae sawl llechen wedi llithro – mae John Gwynfor Jones wedi addo eu ail hosod ond heb wneud y gwaith eto – penderfynwyd gofyn eto iddo wneud y gwaith gan gynnwys gwneud peipen landar yn saff a phwyntio rhannau o’r pileri o bobtu i’r giat sydd wedi mynd yn flêr.Trafodwyd bod angen paen-tio llinellau melyn ar stepiau yr eglwys, bydd angen gwneud y gwaith yma mor fuan a phosibl, hefyd mae angen lamp uwchlaw y drws hefyd.Penderfynwyd anfon at Hefin Underwood i ofyn iddo dalu unrhyw ffioedd sydd yn ddyledus gan ei bod yn ymddangos ei fod wedi newid y drefn, trwy ofyn i gwsmeriaid dalu yn uniongyrchol i’r cyngor am osod ac ail osod cerrig beddau.Gor-yrru ar y B4413 yn Aberdaron:Adroddodd y Cyng RJ Jones ei fod wedi mynychu cyfarfod rhwng Dylan Wynn Jones, y swyddog trafnidiaeth a rhai o drigolion y pentref. Cytunodd y swyddog i symud yr arwydd ‘30’ at Bryn Gorwel a rhoi llinellau coch ar y ffordd. Hefyd bydd mesurydd cyflymder yn cael ei osod er mwyn darganfod cyfartaledd cyflymder modurwyr.Torri llwybrau y gymuned:Derbyniwyd llythyr gan Gyngor Gwynedd yn datgan fod torriad o 20% yn cael ei wneud yn y gyllideb ar gyfer torri llwybrau eleni. Y swm o £1,022 fydd Cyngor Aberdaron yn ei dderbyn. Penderfynwyd gofyn i Huw Williams dorri pob llwybr cyn y Sulgwyn; bydd rhaid blaenoriaethu os bydd angen ail dorri.Gohebiaethau:Llythyr gan Wasanaeth Tai Cyngor Gwynedd – derbyniwyd y wybodaeth. Derbyniwyd llythyrau diolch am gyfraniadau ariannol gan Bwyllgor 400 Ysgol Botwnnog, Neuadd Y Rhiw a Pwyllgor Parêd Dewi Sant Pwllheli.Bydd y cyfarfod nesaf o’r cyngor cymuned yn cael ei gynnal nos Lun, 13 Mehefin yng Nghanolfan Deunant.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.