Merched y Wawr

ROEDD llwyfan y neuadd wedi’i addurno’n hardd gyda chennin pedr a’r byrddau gyda ffiolau bychain o flodau’r gwanwyn ar gyfer swper Gwyl Ddewi y gangen ar 2 Mawrth.Diolchwyd i’r pwyllgor am trefnu hyn.Ar ôl i’r aelodau ganu Cân y Mudiad, croe-sawyd hwy a’r gwesteion gan y llywydd.Cydymdeimlodd â theulu Norah, un o’r aelo-dau a fu farw’n ddiweddar.Mynegodd falchder o weld Mair, Cwmafon a Joan yn bresennol ar ôl eu anhwylder. Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Jano, Eirwen, Jean Thomas a Meinir na allent fod yn bresennol. Yna, mwynhawyd swper syml, digonol a blasus iawn o gawl cennin, tarten afalau a phice ar y maen a baratowyd gan gaffi Blades.Arlwy o ganu gân Seimon Menai ac Ann Ha-fod a’u cyfeilydd, Steven Evans, ddaeth wedyn caneuon Cymraeg, dwy o Sioe Gerdd ac i orffen yr hen ffefryn, Hywel a Blodwen. Cafodd y tri ohonynt dderbyniad gwresog.Mair Lloyd Davies a Margaret Roberts enillodd y ddwy wobr raffl, roddwyd gan Ruth a Margaret.Diolchodd Beti’n swyddogol i bawb a diol-chodd y llywydd i Gwenda am drefnu’r noson ac i Margot am ei gwaith fel trysorydd. Diweddwyd gyda’r anthem genedlaethol. Noson dda iawn.

Oedfa

PREGETHIR yng Nghapel Graig y Sul yma, 20 Mawrth, am 10 yb gan y Parch Arthur M Roberts, Pwllheli.