Sefydliad y Merched
BU Mehefin yn fis gweddol prysur i’r gangen gyda’r aelodau yn cyfarfod ar yr ail nos Iau fel arfer i drafod materion y Sefydliad, y llythyr misol ac ati. Yna ar nos Iau, 23 Mehefin ymwelwyd â gorsaf Bad Achub Pwllheli. Croesawyd hwy yno gan Clive Moore a chyda chymorth ffilm fideo cafwyd hanes gwasanaeth y Bad Achub yn y dref. Roedd cyfle i edrych o gwmpas a chael eistedd yn y bad ei hun. Diolchwyd yn gynnes i Mr Moore am noson addysgiadol a diddorol ac aed ymlaen wedyn i fwyty Y Barn yn Stryd Moch gyda phawb yn cael eu dewis eu hunain o’r fwydlen i roi diweddglo blasus a mwynhaol i’r noson.Ymddengys y bydd Gorffennaf hefyd yn fis prysur i’r aelodau. Derbyniwyd gwahoddiad i ymuno gyda changen Chwilog ar nos Wener, 8 Gorffennaf i ymweld â Felin Uchaf. Cynhelir cyfarfod y mis ar nos Iau, 14 Gorffennaf, pryd y disgwylir Carol Jones o gwmni Welsh Lady, Y Ffôr yn siaradwraig wadd. Diweddir gweithgareddau’r tymor ar ddydd Sul, 24 Gorffennaf mewn ‘Te Mefus’ wedi ei drefnu gan Grwp Llyn yn neuadd bentref Sarn. Mae croeso i unrhyw un fynd a’r pris yw £4.
Service/oedfa
St Cawrdaf: 9.30am Boreol Weddi / Morning Prayer.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.