Mae Amgueddfa Forwrol Llyn, trwy nawdd gan Arloesi Gwynedd Wledig, wedi agor ei drysau bob dydd Sadwrn trwy’r gaeaf a pum diwrnod yr wythnos yn ystod y Pasg.
Yn mis Mawrth, cafodd y pwyllgor weld y siop a’r caffi ar ei newydd wedd.
Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol a daeth Owain Wyn, Burum, yno i gyflwyno ei syniadau ar gyfer y cynllun busnes ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
Meddai Meinir P Jones, rheolwr yr amgueddfa: “Mae hyn yn ddiwedd cyfnod o ail-wneud yr amgueddfa. Bellach mae lle i’r holl artefatau o dan yr un to.
“Rydyn ni wedi gweddnewid ein siop fach a chaffi yn barod am y tymor newydd.”
Mae’r amgueddfa nawr yn chwilio am weithiwr i ymuno â’r tim gan fod Meinir wedi datgan ei bwriad i ymddeol.
Meddai Wil Trenholme, gadeirydd yr ymddiriedolwyr: “Mae Meinir wedi bod yn weithiwr rhagorol i ni ac wedi gwneud gwyrthiau.
“Dydyn ni ddim eisiau ei gweld yn gadael. Mi fydd yn gamp cael neb i lenwi ei esgidiau hi ond rydyn ni’n hysbysebu swydd ar hyn o bryd, felly, cofiwch roi gwybod i rhywun fyddai gan ddiddordeb.”






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.