MAE Aelod Seneddol ifancaf Cymru yn ddigon ifanc i ymaelodi ag un o brif fudiadau ieuenctid Ceredigion.
Ailymaelododd Ben Lake, AS Ceredigion, â CFfI Ceredigion yn ystod un o brif ddigwyddiadau eu calendr blynyddol.
Bu diwrnod llawn o gystadlu ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 4 Tachwedd, lle mentrodd cannoedd o bobl ifanc i’r llwyfan, i gystadlu, cael hwyl a magu hyder gyda’i gilydd.
Ni fydd Ben Lake yn ymaelodi ag un clwb yn benodol, ond yn hytrach bydd yn ymaelodi fel aelod sirol i fod yn gyd-aelod i dros 600 o aelodau yn y sir.
Dywedodd Mererid Jones, cadeirydd CFfI Ceredigion: “Rwy’n falch iawn bod ein Haelod Seneddol wedi ymaelodi gyda’r mudiad yng Ngheredigion.
“Mae’n amlwg ei fod yn gweld gwerth mewn mudiad sydd mor bwysig i bobl ifanc yng nghefn gwlad.
“Rwy’n siwr y bydd yr holl aelodau’n gwerthfawrogi ei gefnogaeth ac yn edrych ymlaen at ddod i’w nabod yn well yn rhai o weithgareddau’r mudiad.”
Yn gyn-aelod o GFfI Llanddewi Brefi pan yn ddisgybl yn Ysgol Llanbedr Pont Steffan, dywedodd Mr Lake: “Clybiau Ffermwyr Ifanc yw calon ein cymunedau yng nghefn gwlad Ceredigion, a dwi’n edrych ymlaen at gael cyfrannu at weithgarwch y mudiad yn y sir.
“Mae’r mudiad yn cynrychioli gymaint o bethau sy’n dda am yr etholaeth dwi’n ei chynrychioli: brwdfrydedd, cydweithio a pherthyn.
“Mae strwythur democrataidd y mudiad a’r ffordd maent yn gweithredu o’r gwaelod lan i’w ganmol a byddwn i’n hoffi gweld mwy o fudiadau, cymdeithasau a sefydliadau yn gweithredu yn yr un modd.
“Mae’n glod i’r mudiad hefyd bod y Gymraeg yn parhau i fod yn rhan naturiol a chreiddiol o holl weithgarwch y CFfI yn y sir hon ac roedd yr eisteddfod yn enghraifft wych o hynny.
“Fel aelod, edrychaf ymlaen at hybu gwaith y mudiad ar lefel sirol, cenedlaethol a thu hwnt dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.