WYTHNOS ddiwethaf cynhaliodd yr awdur Meinir Wyn Edwards gyfres o weithdai arbennig ar gledrau Lein y Cambrian, gan gyflwyno rhai o chwedlau mwyaf adnabyddus Cymru i ddisgyblion Ysgol Tanycastell, Harlech ac Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth.

Trefnwyd y Daith Awdur ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a threnau Arriva Cymru wedi i gyfrol Meinir, Deg Chwedl o Gymru a gyhoeddwyd gan wasg Y Lolfa, gael ei chynnwys ar restr fer Gwobr Tir na n-Og eleni. Mae llyfrau Meinir am chwedloniaeth Cymru, cyfres Chwedlau Chwim a Folk Tales in a Flash!, eisoes wedi profi’n boblogaidd iawn ymhlith plant yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cafodd y disgyblion y cyfle i ddysgu am dreftadaeth lenyddol a diwylliannol Cymru wrth gael blas ar chwedlau oedd yn perthyn i’w hardaloedd.

“Mae’r syniad o daith Chwedlau ar y Cledrau yn wych,” meddai Meinir Wyn Edwards.

Darllenwch y stori llawn yn rhifynnau gogledd y Cambrian News yr wythnos hon