Merched y Wawr

AR DDIWEDD eithriadol o stormus daeth mair Tomos Ifans, ei mab Elis a’i gyfaill Gweltaz — wyr Llewela ein llywydd — atom i gynnal noson a chawsom noson i’w chofio o ran yr adloniant ac o ran y tywydd! Cawsom ddetholiad o alawon Dafydd Roberts, Telynor Mawddwy ac un alaw yn arbennig o’r enw Nant y Nodyn, sef fferm yn Ninas Mawddwy.Canodd Elis Sosban Fach a Calon Lân yn ei lais swynol a ninnau yn ymuno yn y gytgan. Roedd Gweltaz wedi dod a’i chwisl dun ac roedd yn ei chwarae’n fedrus a chawsom gân swynol ganddo yntau hefyd sef Bwthyn fy Nain.Diolch yn fawr i’r bechgyn am ddod — roeddem i gyd yn gwerthfawrogi eu cyfraniad.Cawsom ganeuon llon a lleddf gan Mair ac adroddiad digrif iawn yn ei dull dihafal ei hun. Diolchodd Megan yn gynnes iawn iddynt i gyd am noson hwyliog a chartrefol.Mair a Megan oedd yn paratoi’r baned a Llewela enillodd y raffl.Llongyfarchwyd Gwyneth, Gwenda, Mair a Megan am gynrychioli’r gangen yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol yn Llanelltyd.Gofynnwyd am wirfoddolwyr i ddarllen y Llais ac mae Jean a Gwenda am wneud ym mis Tachwedd a Llewela Megan a Mair am wneud ym mis Rhagfyr.Cawsom adroddiad o bwyllgor Celf a Chrefft y Pwyllgor Rhanbarth gan Megan.Bydd ein cyfarfod nesaf yn Nineteen.57, Talybont ar 8 Rhagfyr am 1yp, lle byddwn yn mwynhau ein cinio Nadolig.

Parking

GWYNEDD Council has confirmed that all of its council-run car parks will be free between 13 and 27 December in a bid to attract more shoppers to high streets and boost the local economy. The aim of this initiative is to encourage shoppers to use businesses within Gwynedd and to support the local economy instead of travelling to distant cities.

School bingo

YSGOL y Traeth will be holding its annual fund-raising bingo night on Wednesday, 2 December at the Buffs Club at 6pm. All are welcome to play and help support the school. Organisers have thanked the local businesses that are supporting the event.