Y clwb bowlio yn Heol y Frenhines oedd cyrchfan cyfarfod Merched y Wawr Aberystwyth mis Mai, lle hollol addas gan mai’r siaradwraig wadd oedd y fowlreg Anwen Butten.
Y ferch ddiymhongar o Lanbedr Pont Steffan mae hi, sydd wedi cystadlu ym Mhencampau Bowlio’r Byd, Pencampau Bowlio Atlanteg, Pencampau Bowlio’r Deyrnas Unedig a chystadlaethau bowlio Gêmau’r Gymanwlad.
Er mai nyrs arbenigol ym maes y pen a’r gwddf i Fwrdd Iechyd Hywel Dda ydyw yn ei gwaith bob dydd, mae Anwen wedi ennill gwobrau di-rif ym maes bowlio.
Cawsom ganddi hanes ei gyrfa ddisglair yn y byd bowlio a ddechreuodd pan nad oedd ond yn 13 oed. Mae wedi bod yn cystadlu drwy’r blynyddoedd mewn llawer iawn o wledydd drwy’r byd megis India ac Awstralia a dyna ddifyr oedd clywed hanesion a chyfrinachau tîm Cymru.
Roedd ganddi arddangosfa luniau o’i llwyddiannau a gwelsom lu o fedalau aur, arian ac efydd a enillodd.
Clywsom fel y daeth yr uchafbwynt pan gafodd ei dewis yn gapten ar dîm Cymru yng Ngêmau’r Gymanwlad yn Birmingham 2022, a hithau’n cael cyfle i fod yn ysbrydoliaeth i eraill.
Daeth ei mham gydag Anwen – un arall o’r teulu a fu’n chwarae bowls i Gymru – a dyna hwyl gawsom dan hyfforddiant y ddwy wrth i ni gael tro ar daflu’r peli ar lawnt fowlio’r clwb. Coeliwch neu beidio mae plant Anwen, sef Alis a Harri, yn dilyn ei chamre ac yn chwarae bowls i Gymru!
Noson hynod o ddifyr. Pwy a wyr ond efallai bydd Anwen wedi ysbrydoli rhai ohonom ninnau o’r gangen i ymuno â chlwb bowlio!
Soniwyd am lwyddiannau rhai o aelodau’r gangen megis ein dysgwyr disgair y ceir eu hanes yn Y Wawr cyfredol mewn erthygl gan Dana Edwards. Llongyfarchwyd Dana ar ennil cadair Eisteddfod Aberystwyth a dymunwyd yn dda i’r cystadlaethau aiff ymlaen o ŵyl Merched y Wawr Ceredigion.
Bydd yr trip ar 20 Mehefin yn cychwyn o faes parcio Camau Bach am 9.45yb. Os am ddod cysylltwch â’r swyddogion os nad yw eich henw i mewn eisioes.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]


.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


