Bydd Branwen: Dadeni, sioe gerdd epig a hynod lwyddiannus Canolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen, yn cael ei darlledu ar S4C dros Ŵyl y Nadolig.
Ail ddychymyg cyfoes o stori eiconig a thrasig Branwen, allan o straeon chwedlonol hynafol y Mabinogi, yw’r sioe lwyfan. Aeth ar daith ar draws Cymru ym mis Tachwedd 2023 a chafodd ei pherfformio o flaen cynulleidfaoedd enfawr; gwerthwyd pob tocyn ym Mangor ac Aberystwyth, gyda mwy o docynnau’n mynd ar werth yng Nghaerdydd i ateb galw mawr.
Cafodd Branwen: Dadeni ei hysgrifennu gan Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies, gyda geiriau a cherddoriaeth gan Seiriol Davies. Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen, Gethin Evans, wnaeth ei chyfarwyddo.
Mared Williams sy’n chwarae’r brif ran, a Gillian Elisa yn chwarae Ena, ffigwr sy’n cynghori Matholwch, Brenin Iwerddon. Ymysg gweddill y cast o actorion a cherddorion mae Rithvik Andugula, Caitlin Drake, Lisa Angharad, Tomos Eames, Huw Euron, Ioan Hefin, Steffan Hughes, Miriam Isaac, Elan Meirion, Niamh Moulton, Cedron Sion, Adam Vaughan, Mali Grooms a Tegwen Velios.
Meddai Mared: “Mi oedd hi’n fraint llwyr cael chwarae rôl sydd yn gyfarwydd iawn i ni yn ein storïau yma yng Nghymru. Roedd hi bendant yn sialens creadigol dod fyny efo fersiwn oedd yn gweddu’r sioe ail-ddychmygol a fersiwn sy’n debycach i fyd heddiw ond ges i gymaint o foddhad allan o gydweithio gyda’r cast a tîm creadigol anhygoel.
“Dwi’n gyffrous i weld sut mae’r stori yn trosglwyddo i’r sgrîn... Dwi’n edrych ymlaen i weld rhannau o’r stori nad oeddwn i’n gallu gweld oherwydd fy mod ar y llwyfan rhan fwyaf o’r amser fel Branwen!”
Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C: “Wedi taith lwyddiannus ar draws Cymru, braint yw cael darlledu’r sioe gerdd epig Gymraeg yma ar S4C.”
Emyr Afan ydi Prif Weithredwr ac Uwch Gynhyrchydd cwmni cynhyrchu Afanti, dywedodd: “Doedd dim dwywaith fod yn rhaid i Afanti ffilmio y gwaith arloesol hwn sy’n cynrychioli gwerthoedd cynhyrchu mor uchel, talent Cymru ar ei orau ac yn bennaf oll gwaith fyddai’n ennyn parch cenedlaethol a rhyngwladol am y safonau yna a’r stori oesol mae’n ei gynrychioli.
“Mae’n bwysig bod theatr Cymraeg a’n diwylliant yn parhau i gael llwyddiant byd eang mewn ffilm a theledu a dyna pam mae’r bartneriaeth rhwng Afanti, Canolfan y Mileniwm a chwmni theatr Frân Wen a nawr S4C mor bwysig i ni. Mae’n briodol mai S4C , sy’n sefyll dros yr un gwerthoedd, sy’n cael y darllediad cyntaf o’r gwaith arloesol hwn BRANWEN : DADENI.”
Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwyr Artistig Canolfan y Mileniwm: "Mae’n teimlo’n briodol iawn bod y sioe gerdd nodedig hon a esgorwyd ar lwyfan fwyaf y genedl, yn cael ei gweld eto ar deledu cenedlaethol – diolch i gyd weithio â thalentau cwmni teledu Afanti ac S4C. P’un ai i chi golli allan ar docynnau y tro cyntaf, neu eich bod yn dymuno cyfle arall i fwynhau’r sioe, gobeithio y byddwch yn tiwnio fewn.”
Meddai Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen, Gethin Evans: "Braint yw cydweithio gydag Afanti ac S4C i ddathlu llwyddiant Branwen: Dadeni wrth ei rannu gyda chynulleidfa ehangach. Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i hyrwyddo talentau anhygoel yr artistiaid cyffrous sydd wedi bod ynghlwm wrth y gwaith o greu'r cynhyrchiad beiddgar yma sy’n ail-ddiffinio un o’n trysorau ni fel cenedl."
Branwen: Dadeni
Nos Sadwrn, 30 Rhagfyr 21:00
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Afanti ar gyfer S4C
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.