Merched y Wawr
NOS FERCHER, 2 Rhagfyr, cawsom ein cinio Nadolig yng Ngwesty’r Conrah. Roedd yn hyfryd gweld rhai o’r gwyr wedi dod a dywedwyd y Fendith gan bawb cyn dechrau’r cinio.Llywydd y nos oedd Anne Gwynne a’n gwr gwadd oedd Tegwyn Jones, Bow Street, sydd wedi bod yn gweithio yn y llyfrgell ac yn diddori mewn barddoniaeth a thribannau yn arbennig. Mae hefyd yn gartwnydd enwog. Diddorol oedd gweld cartwn doniol iawn o’i eiddo ar ddalen flaen gyntaf y Barcud, papur bro Tregaron, 39 mlynedd yn ôl yn 1976.Cafwyd orig ddifyr gan Tegwyn Jones a diolchodd Anne yn gynnes iddo a hefyd i Westy’r Conrah am y bwyd hyfryd. Adeg y Nadolig bu rhai o’r aelodau yn canu carolau i’r preswylwyr yng Nghartref Pennal View, Blaenpennal, gan fwynhau’n fawr. Llawer o ddiolch am y croeso cynnes.Balch ydym fod un o’n haelodau, sef Sandra Morris Jones, adref o’r ysbyty erbyn hyn, wedi ei llawdriniaeth yn Ysbyty Llwynhelyg. Anfonwn ati fel cangen ein dymuniadau gorau am adferiad llwyr.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.