Mae cynllun mentora newydd wedi ei lansio heddiw gan SYLW – Cymuned Cyfathrebwyr Cymru. Nod y cynllun yw rhoi cyfle i bobl sy’n gweithio yn y maes Cyfathrebu yng Nghymru i ddatblygu a dysgu wrth rai o arbenigwyr y maes.
Mae 25 mentor wedi arwyddo i’r cynllun gydag enwau adnabyddus fel Guto Harri, Ashok Ahir, Ian Gwyn Hughes a Wynne Melville Jones yn barod i rannu eu harbenigedd gyda thon newydd o gyfathrebwyr,
Mae gofyn i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais fer - os yn llwyddiannus, byddant wedyn yn cael eu paru gyda mentor sy’n addas i’w maes gwaith ac yn derbyn tair sesiwn fentora ar zoom yn ystod mis Tachwedd.
"Fel cenedl mor huawdl gyda iaith a thraddodiad mor hynafol a hyblyg mi ddylem ni fod heb ein hail fel cyfathrebwyr,” meddai Guto Harri, un o’r mentoriaid fydd yn rhan o’r cynllun. “Dwi’n edrych ymlaen i helpu SYLW i feithrin cenhedlaeth o ymgynghorwyr fydd ar ben y byd."
Lansiwyd SYLW nol ym mis Mai gan Manon Wyn James a Gwenan Davies wedi iddynt weld galw am greu cymuned gwbl Gymreig i gyfathrebwyr Cymru. Mae gan Manon dros ugain mlynedd o brofiad yn y maes Cyfathrebu ac mae’n gweithio i S4C fel Pennaeth Adran y Wasg. Mae Gwenan yn arbenigo ar y Gymraeg yn y sector gyhoeddus a bu’n gweithio ar gynlluniau i hyrwyddo’r Gymraeg ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda am nifer o flynyddoedd cyn symud i Adran Farchnata y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Erbyn hyn mae gan SYLW bron i 300 o aelodau ac maent eisoes wedi cynnal cynhadledd rithiol a chyfres o Sgyrsiau SYLW i glywed gan bobl sy’n gweithio yn y maes.
“Dyma gyfle gwych i’n haelodau allu manteisio, dysgu a datblygu eu gyrfaoedd gyda rhai o arbenigwyr mwya’r maes Cyfathrebu” meddai Manon Wyn James un o sylfaenwyr SYLW.
“Rydyn ni wedi sicrhau bod y cynllun yn cynnwys arbenigwyr sy’n cyffwrdd â phob agwedd o gyfathrebu – o gysylltiadau cyhoeddus, marchnata, digwyddiadau i’r cyfryngau cymdeithasol. Mae ‘ gan ein harbenigwyr stôr o wybodaeth a phrofiad.”
Ychwanegodd Gwenan Davies: “Dyma’r cynllun mentora Cymraeg cyntaf o’i fath i gyfathrebwyr, ac mae’r cyfan yn rhad ac am ddim. Mae Cyfathrebu yn faes sy’n tyfu a datblygu drwy’r amser, dyma’r cyfle perffaith felly i gael cyngor arbenigol a gwneud cysylltiadau gyda rhai o arbenigwyr Cyfathrebu gorau Cymru. Ewch amdani!” Gallwch wneud cais drwy’r ddolen yma: www.bit.ly/cynllunmentora






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.