Mae dwy ferch o Geredigion wedi lansio cymdeithas newydd i siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio neu sy’n ymddiddori yn y maes Cyfathrebu.

Bwriad SYLW yw creu cymuned o arbenigwyr Cyfathrebu i rannu syniadau, creu cysylltiadau a datblygu eu gyrfaoedd mewn awyrgylch gwbl Gymraeg.

Manon Wyn James, o Dregaron, a Gwenan Davies, yn wreddiol o Fydroilyn ond sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghrymych, sydd tu ôl i’r fenter newydd.

Mae gan Manon dros ugain mlynedd o brofiad yn y maes Cyfathrebu ac mae’n gweithio i S4C ar hyn o bryd fel Pennaeth Adran y Wasg. Mae Gwenan yn arbenigo ar y Gymraeg yn y sector gyhoeddus a bu’n gweithio ar gynlluniau i hyrwyddo’r Gymraeg ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda am nifer o flynyddoedd cyn symud i Adran Farchnata y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Mae Cyfathrebu yn faes sy’n parhau i dyfu,” meddai Manon. “Does dim un sefydliad neu gwmni yn mynd i allu gweithredu heb fod yna dîm neu berson Cyfathrebu wrth y llyw.”

"Mae’n faes cyffrous tu hwnt i weithio ynddo, ac mae’n faes lle mae cysylltiadau mor bwysig. Gobeithio felly bydd SYLW yn gyfle i arbenigwyr Cyfathrebu Cymru ddod i adnabod ei gilydd a dysgu o brofiadau ei gilydd hefyd.”

Gyda nifer helaeth o gyrsiau hyfforddiant ar gael yn Saesneg eisoes, does dim amheuaeth fod galw mawr am gymuned Gymraeg i gynnal digwyddiadau arbenigol ym maes Cyfathrebu.

“Fe wnaethom ni ddechrau sgwrsio rai misoedd yn ôl, ar ôl bod ar sawl gwrs hyfforddi yn y Saesneg a gweld galw gwirioneddol ar gyfer rhywbeth tebyg yn y Gymraeg. Mae angen rhoi y cyfle i siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio yn y maes i rwydweithio yn Gymraeg,” meddai Gwenan

Mae’r ddwy yn gytûn fod gweithio yn y maes Cyfathrebu yn Gymraeg yn gwbl wahanol.

“Mae’r Cymry yn gweithredu mewn ffordd wahanol. Mae’r cyfathrebu yn gorfod bod yn fwy cynnil yn aml iawn. Wrth gwrs mae pawb yn nabod ei gilydd yng Nghymru ac felly ry’n ni eisiau datblygu y cysylltiadau hynny i sicrhau ein bod yn dysgu o brofiadau ein gilydd.”

Bydd SYLW yn cynnal ei cynhadledd rhithiol gyntaf ym mis Mehefin, a’r bwriad wedyn yw lansio cynllun mentora rai misoedd yn ddiweddarach. Y nod hefyd yw rhannu gwybodaeth am swyddi yn y maes, rhannu tips ac arfer da a chynnal sesiynau hyfforddiant yn ystod y flwyddyn.

A chyda Cyfathrebu erbyn hyn yn faes eang tu hwnt, gobeithir y bydd SYLW yn denu aelodau ym maes marchnata, hyrwyddo, brandio, cysylltiadau cyhoeddus, y wasg, materion cyhoeddus a’r cyfryngau cymdeithasol.

“Denu sylw yw ein gwaith ni oll, pa bynnag faes. Gobeithio bydd cymuned SYLW yn rhoi cyfle i ni allu gwneud hynny gyda’n gilydd yn Gymraeg.”