Mae Gareth Bale, Geraint Thomas, Michael Sheen ynghyd â rhai o sefydliadau rhyngwladol mwyaf y byd fel Greenpeace a Friends of the Earth ymhlith y rheiny sydd wedi dangos cefnogaeth i Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2022 pobl ifanc Cymru a ryddhawyd ar ffurf fideo gan Urdd Gobaith Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Ysgrifennwyd y Neges Heddwch ac Ewyllys Da, ‘Yr Argyfwng Hinsawdd’, mewn cydweithrediad â myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth ar ran pobl ifanc Cymru, ac mewn fideo pwerus gelwir ar bobl ledled y byd i “ddeffro” ac i wrando ar leisiau ieuenctid a gweithredu dros ddyfodol y blaned. Mae neges eleni ar gael mewn 101 o ieithoedd, gan gynnwys Iaith Arwyddo Prydain (BSL).

I nodi canmlwyddiant yr Urdd, lansiwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2022 yng Nghanolfan Heddwch Nobel yn Oslo, Norwy, mewn digwyddiad arbennig yng nghwmni Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford a’r myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Bu’r sylw ar y cyfryngau cymdeithasol i’r ymgyrch yn cynyddu a chodi momentwm trwy gydol y dydd, ac erbyn canol y prynhawn, roedd y Neges wedi cyrraedd pedwar ban byd, o Beriw i Zimbabwe, Fietnam i Seland Newydd a Moldova. Mae miloedd o ysgolion a sefydliadau ar draws y byd wedi cefnogi’r Neges, ynghyd â llu o gyrff cenedlaethol a rhyngwladol, Prif Weinidogion ac enwogion fel ei gilydd.

Mae nifer o wynebau enwog o dimau cyntaf menywod a dynion Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhannu fideo cefnogol, lle mae Aaron Ramsey a Gareth Bale, dau o blith y 4 miliwn o gyn aelodau’r Urdd, yn dweud “mae’n amser deffro” i’r argyfwng hinsawdd.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford oedd yn bresennol yn y digwyddiad: “Roedd yn anrhydedd bod gyda’r Urdd yng Nghanolfan Heddwch Nobel i rannu neges heddwch y canmlwyddiant gyda’r byd. Ar adeg pan mae heddwch y byd mewn cymaint o berygl ac wrth i ni weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, nid yw gwaith a neges yr Urdd erioed wedi bod yn fwy arwyddocaol.”

Meddai Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Siân Lewis: “A hithau ym mlwyddyn Canmlwyddiant yr Urdd, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i sicrhau bod Cymru’n cael effaith gadarnhaol yn y byd, ac rydym yn ddiolchgar i’r rheiny sydd wedi ein helpu i rannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da ein canmlwyddiant mor eang â phosib, o aelodau i gyn-aelodau a chefnogwyr ledled y byd.

“Heddiw, mae lleisiau ein pobl ifanc wedi cael eu clywed.”