Sefydliad y Merched
CROESAWODD Ceri yr aelodau i gyfarfod mis Ebrill o’r gangen leol yn y Neuadd Goffa ar nos Wener, 15 Ebrill. Darllenwyd y llythyr misol gan drafod a nodi amryw o bynciau. Yna croesawodd yr aelodau Carol Houston o Bryn Refail atom i roi ychydig o flas ar sut i chwarae dwy gêm sef ‘Boccia’ a ‘New Age Curling’. Cafodd yr aelodau hwyl ar y blasu a diolchodd Ceri i Carol am noson mor hwyliog. Gwesteion y te oedd Rose ac Ellen.Enillydd y raffl, rhoddedig gan Rose, oedd Carol.Cynhaliwyd cyfarfod mis Mai yn y Neuadd Goffa ar nos Wener, 6 Mai pryd croesawodd Ceri’r aelodau. Darllenwyd y llythyr misol.Yna croesawodd yr aelodau Margaret Lloyd Jones, Ymgynghorydd Sefydliad y Merched a ddarllenodd a thrafod y penderfyniadau a roddi’r ger bron y Cyfarfod Blynyddol Cenedlaethol.Mae’r penderfyniadau yn annog ‘Osgoi gwastraff bwyd yn yr Archfarchnadoedd’ wrth ei basio mlaen i Elusennau ac i Fanciau Bwyd ac yn ail yn annog y dylai roi gofal priodol i bobol yn yr ysbytai sydd yn dioddef o Ddimensiwn, trwy adael i’w gofalwyr gael treulio mwy o amser yn yr ysbyty gyda’r claf ac yn paratoi cyfleusterau i’r gofalwyr.Karen Roberts fydd yn ein cynrychioli yn y Cyfarfod Cenedlaethol yn Brighton ym mis Mehefin. Diolchwyd i Margaret gan Ceri. Gofalwyd am y baned gan Marilyn.Rhoddwyd y raffl gan Ellen ac fe’i henillwyd gan Karen. Fe fydd y cyfarfod nesaf ar 3 Mehefin.




.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.