Sefydliad y Merched

CROESAWODD Ceri’r aelodau i gyfarfod o’r gangen yn y neuadd goffa nos Wener, 3 Mehefin. Darllenwyd y llythyr misol gan drafod a nodi amryw o bynciau.Yna croesawyd John Christopher Williams sydd wedi dod yn ôl i Feddgelert i fyw yn ei hen gartref ers tair blynedd a hanner. Bu Mr Williams yn gweithio ym myd addysg mewn amryw o wledydd ar draws y byd.Bu’n gweithio am 17 mlynedd yn Papa New Guinea ac yn Saudi Arabia am 3 mlynedd.Bu’n olrhain y cyfnod a fu yn gweithio yn y ddwy wlad yma’n bennaf.Roedd wedi dod â chasgliad o greiriau o’r gwledydd gydag ef, gan gynnwys penwisgoedd, dillad, cloch camel, ochr pabell ac amryw o declyn-nau oedd yn cael eu defnyddio yn y ty. Cawsom ddarlun cryno iawn ganddo o fywyd y Dwyrain Canol a dysgodd yr aelodau lawer iawn ganddo am y diwylliant, crefydd a llawer mwy. Diolchodd Ceri i Mr Williams.Gwesteion y baned oedd Karen ac Eirlys ac enillydd y raffl roddedig gan Eirlys oedd Margaret Lloyd Jones.