Canolfan Hanes Uwchgwyrfai
I DDATHLU pen-blwydd y Ganolfan yn 10 oed eleni byddwn yn cynnal cyngerdd arbennig yn Neuadd Bentref Clynnog am 7yh, nos Wener, 24 Mehefin.Yr artistiaid fydd Arfon Gwilym, Sioned Webb, Mair Tomos Ifans a Mari Gwilym.Hefyd bydd Cwmni Drama’r Ganolfan yn cyflwyno Anterliwt newydd sbon, Arwisgiad 2019.Mynediad trwy docyn, £5 trwy gysylltu â’r ganolfan: 01286 660853/ 655/ 546 neu e-bost: [email protected] Y cyntaf i’r felin gaiff falu.Yn rhan o’r dathlu agorir yr ardd i’r cyhoedd 1-4 Gorffennaf, 1.30 - 4yp a cheir arddangosfa yn yr Ysgoldy, a phaned.




Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.