Yn dilyn noson lwyddiannus arall yng nghystadleuaeth Cneifio Cyflym Trawsfynydd, hoffai’r trefnwyr ddiolch i bawb am eu cefnogaeth.
Yr oedd chwech dosbarth gyda 88 yn cystadlu ynddynt. Diolch yn fawr i’r beirniaid, sef Glyn Cae Poeth a Gareth Cwm Cloch.
Dyma ganlyniadau’r noson: Dan 16 oed noddwyd gan Elgan Metcalffe: 1, Tomos Tyndrain; 2, Ifan Tynllyn; 3, Daniel Goppa.
‘Juniors’ noddwyd gan Murphy & Co: 1, Owen Berth Ddu; 2, Gerwyn Gors; 3, Elis Cae Glas.
‘Intermediate’ noddwyd gan Iestyn a Marian, Y Goppa: 1, Sion Gwilym Ty Cerrig, Y Parc; 2, Gwion Gors; 3, Huw Boderyl, Llanfor.
Ffermwyr Traws noddwyd gan Ifan Williams, Tan yr Onnen, Bronaber: 1, Gwion Gors; 2, Derwyn Cae Glas; 3, Owen Berth Ddu.
‘Veterans’ noddwyd gan Cig Eryri: 1, Derwyn Cae Glas; 2, Gareth Cwm Cloch; 3, Alun Dolhaidd.
‘Agored’ noddwyd gan Cross Foxes, Trawsfynydd: 1, Ifan, Cwm Main; 2, Alun Hedd, Llys Bach, Llanuwchllyn; 3, Elgan, Llystyn, Bryncir.
Roedd llond sied yno yn cefnogi a diolch i Rhodri Jarrett oedd ar y meicroffon yn creu awyrgylch hwyliog drwy gydol y noson.
Diolch hefyd i deulu Goppa am gael cynnal y noson yno, i Cig Eryri am ddarparu’r bwyd, i Geraint Gwanas am yr wyn i’w cneifio, i Gwilym James am fenthyg y toiledau a’r gatiau diogelwch, i Rhodri a Sarah Glanllafar am y goleuadau, i Prysor Service Station am y byrddau, i Garry Owen Hughes am yr offer sain a’r adloniant ddiwedd y noson ac i’r pwyllgor i gyd am eu gwaith caled.
Diolch i bawb wnaeth noddi’r cystadleuthau uchod ac hefyd i’r holl noddwyr, sef: T.K Masonry, CPS Global, Bob Holmes, Wyn Cae Gronwy, Wynne Construction, M-Trac Cymru, Menai Tractors, Q Williams ltd, Penrhyn Hire, John Roberts Ffestiniog, Milfeddygon Dolgellau, Oil4Wales, A-Comm Ltd, David Jones Training, Farmers Marts, Kevin Williams Bont Ddu, Ruthin Farmers, Teiars Sarcens, NFU Dolgellau, Teulu Troed Y Rhiw, Garej Tynpistyll, Gwynedd Windscreens, Northern Welsh Quarry, Pedro's, Mart Bryncir, Oswyn Roberts Y Parc, GRC Dolhendre, Dafydd Evans Tractors, Mona Tractors, Dylan Jarman a D G Thomas, CCF, A & M Lloyd, Jones & Jones a UAC.
Bydd elw’r noson i gyd yn mynd tuag at Sioe Trawsfynydd.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]