THE latest community news from Abererch
Clwb-y-Berch
PRYNHAWN Iau, 19 Hydref, yn y Neuadd Fach, cynhaliwyd ein cyfarfod diolchgarwch blynyddol.
Cafwyd orig fendithiol yng nghwmni Alun Price, Griff Owen a William Rowlands.
Cafwyd darlleniadau, ynghyd ag eitemau cerddorol a chyfle i’r aelodau ymuno yn rhai o’r emynau. Diolchodd Evan iddynt.
Mwynhawyd paned wedi ei arlwyo gan Olwen ac Ann. Enillydd y raffl oedd Myfi. Anfonwyd cofion at Ken ac Elizabeth sydd yn Ysbyty Gwynedd.
Bydd ein trip blynyddol yn mynd i Landudno ddydd Iau, 16 Tachwedd.
Mae croeso cynnes i ffrindiau i ymuno â’r trip; cysylltwch ag Enid, Pwllheli 613251.
Cynhelir y cinio Nadolig ar 14 Rhagfyr yn Nhafarn Glyn-y-Weddw. Am fanylion cysylltwch â Laura, Chwilog 810574.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]





Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.