THE latest community news from Abersoch

Merched y Wawr

ROEDD “Mai a’i lifrai las” yn ei anterth a’r wlad yn hynod dlws yn yr heulwen pan aeth rhai o’r aelodau i’r Wyl Haf Genedlaethol yn Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth ar 19 Mai.

Anna aeth a’r merched yno’n ddiogel.

Cafodd Cangen Abersoch ganmoliaeth uchel am ei rhaglen ar gyfer 2017–18 a llwyddodd i ennill pedair trydydd wobr, fel a ganlyn, yn yr wyl: i Wendy am ei herthygl yn “Y Wawr” yng nghystadleuaeth Gwobr Patagonia; i Anna am lenyddiaeth neu farddoniaeth ar y testun “O dan y môr a’i donnau” yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Ann Lewis; i Anna eto am stori Feicro “Môr Ladron” neu “Pysgodyn” ac i Anna a Iola yn y gêm Sgrabl.

Mwynhawyd perfformiadau’r llwyfan gan aelodau talentog o wahanol rannau o Gymru ac ‘roedd yno arddangosfa o’r gwaith celf a choginio hefyd.

Paratowyd lluiaeth hyfryd a derbyniol gan yr ysgol.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]