THE latest community news from Abersoch
Merched y Wawr
DEWI Wyn Roberts, cynghorydd newydd Abersoch, oedd y gwr gwadd yng nghyfarfod mis Hydref.
Wedi i’r llywydd Iorwen Thomas, groesawu’n ôl y rhai fu’n cwyno a thrafod nifer o faterion, aeth Mr Roberts ati i roi hanes ei yrfa ddiddorol ac amrywiol tra bu’n aelod o’r heddlu dros glawdd offa ac yma yng Nghymru, gan gynnwys bod yn aelod o Gôr Heddlu Llundain.
Dilynwyd y sgwrs gan gyfle i ofyn cwestiynau dwys a bu’n amser buddiol.
Diolchwyd yn wresog iddo gan Mari a diolchwyd hefyd am y baned a’r bisgedi baratowyd gan Gwenda a Margot.
Dori Hughes enillodd y wobr raffl roddwyd ganddynt.
I goroni’r noson gofynnwyd i’r merched ail-drefnu’r cadeiriau i wynebu’r drws, a phwy ddaeth i mewn ond aelodau parchus o gangen Abersoch, gydag un cymeriad oedrannus, hen ffasiwn, uchel ei chloch a gwerinol iawn yn eu plith – i ail berfformio’r sgets wnaethant yn Nathliad Owain Glyndwr yng Nghricieth.
Bu cryn chwerthin a hwyl wrth fwynhau’r doniolwch.
Dathlu’r Aur yng Ngwesty Nanhoron, Nefyn, sydd ar y gweill at fis Tachwedd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.