THE latest community news from Abersoch

Merched y Wawr

BU noson Dathlu’r Aur, sef hanner canmlwyddiant Cangen Abersoch, yng Ngwesty Nanhoron, Nefyn, ar 8 Tachwedd, yn llwyddiant ysgubol.

Diolch i baratoadau’r pwyllgor, llywyddiaeth hwyliog Iorwen Thomas, bwyd rhagorol y gwesty a hynawsedd y gweinyddesau.

Diolchwyd yn arbennig i Mair Hughes ac Yvonne am drefnu’r cyfan mor drwyadl a deheuig.

Cawsant ganiatad caredig perchennog y gwesty i fynd yno yn y prynhawn i osod y byrddau a’u harddu ag addurniadau euraid ar gyfer y wledd.

Roedd gosodiad blodau Yvonne a’r gacen benblwydd hardd a blasus wnaed gan Iorwen, yn tynnu sylw.

Croesawyd pawb i’r achlysur arbennig ond gresynwyd na allai’r wraig wadd, Brenda Maelor, un o’r aelodau cyntaf, na Janno, fod yn bresennol ar ôl eu damweiniau.

Estynodd y llywydd groeso i’r gwr gwadd, Dafydd Iwan, a mwynhawyd arlwy arall, o’i hoff ganeuon, atalnodwyd ag ambell sgwrs a hanesyn difyr.

Enillwyd y gwobrau raffl, rhoddedig gan Joan Strain ac Yvonne, gan Margaret Williams a Marnel.

Dewiswyd Anna i gymryd rhan yng Ngwasanaeth Carolau y Rhanbarth yn Rhagfyr.

Dechreuwyd y noson gyda Chân y Mudiad a therfynwyd gyda’r Anthem Genedlaethol.

Oinc – Oink, yng nghwmni – Ella Roberts, fydd thema cyfarfod Rhagfyr.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]