THE latest community news from Blaenau Ffestiniog.

Côr y Brythoniaid

BEN bore Sadwrn, 8 Ebrill, aeth 50 o aelodau’r côr, ynghyd ag oddeutu 25 o gefnogwyr, ar wibdaith i’r Ynys Werdd.

Wedi cyrraedd porthladd Dulyn aethpwyd ymlaen i dref Athy yn Swydd Kildare, taith a gymerodd ychydig dros awr. Yno, ar gyrion y dref, cawsom ein croesawu i ganolfan Cuan Mhuire.

Mae’r ganolfan hyfryd hon, sy’n un o nifer o ganolfannau cyffelyb ledled Iwerddon, yn cynnig cymorth i bobl sydd yn gaeth i gyffuriau neu alcohol. Fe’i gweinyddir gan sefydliad crefyddol o’r enw Chwiorydd Trugaredd.

Wrth i’n bws gyrraedd y ganolfan roedd pibydd mewn gwisg Wyd-delig yn ein harwain i’r maes parcio. Mawr oedd gwerthfawrogiad y teithwyr o’r croeso a’r te hyfryd a oedd yn ein disgwyl yn ffreutur y ganolfan.

Wedi’r te aethpwyd allan i amffitheatr awyr agored lle canodd y côr hanner dwsin o ganeuon i’r gynulleidfa werthfawrogol. Aethpwyd ymlaen oddi yno i ganol y dref lle cafwyd ychydig oriau i ymlacio a chrwydro yn yr heulwen braf.

Cyn y cyngerdd fin nos yn Eglwys Sant Michael cafodd yr holl deithwyr swper blasus gan drefnyddion y cyngerdd, sef Clwb Llewod Athy.

Braf oedd cael rhannu’r llwyfan gyda chôr plant o’r ysgol leol a Brian Hughes, un o bibyddion pennaf Iwerddon.

Wedi’r cyngerdd teithiwyd i dref Kilkenny lle treuliwyd dwy noson mewn gwesty hyfryd. Mae Kilkenny yn dref â llawer iawn o hanes yn perthyn iddi a braf oedd cael cyfle ar y dydd Sul a’r bore Llun i grwydro’i strydoedd, ymweld â’i heglwysi niferus, y castell a’i barc, neu gerdded ar hyd glannau’r afon Nore.

Ar y prynhawn Sul cynhaliwyd cyngerdd yn eglwys hardd Sant Ioan. Unwaith eto daeth cynulleidfa luosog i wrando ar y côr, ynghyd ag unawdydd a thrwmpedwr lleol. Mawr oedd gwerthfawrogiad y gynulleidfa o lais swynol John Eifion fel unawdydd mewn ambell gân. Fel ar y noson flaenorol, ar ddiwedd y cyngerdd cododd y gynulleidfa ar ei thraed fel un i fynnu encore.

Roedd y côr wedi paratoi un eitem arbennig ar gyfer y daith, sef fersiwn digyfeiliant o Amhrán na bhFiann, anthem genedlaethol Iwerddon.

Gwerthfawrogwyd y croeso bendigedig a gafwyd a’r trefniadau effeithiol a wnaed ar gyfer y côr gan glybiau Llewod Athy a Kilkenny.

Services

HOLY Cross: Mass at 6pm on Saturday with Bishop Edwin. St Mary Magdalene: Mass at 11am with Bishop Edwin. St David’s: Morning service at 11am. St Michael’s: Morning service at 9.30am. Manod Orthodox – Third and Sixth Canonical Hours at 10am followed by the Divine Liturgy of Saint John Chrysostom. Carmel: Rev J Lewis Jones, 10am. Calfaria: Rev Nesta Mary Davies, morning. Bowydd: Rev R W Griffith, 10am. Bethesda: Home service at 10am.

Advice

A REPRESENTATIVE of the Citizens Advice Bureau will be available at the library between 10am and 1pm on Mondays.

Moelwyn Male Choir

ON Friday evening the choir, conducted by Sylvia Ann Jones and accompanist Wenna Francis Jones, were in concert at Betws y Coed with soloists Awel Jones and Tomos Heddwyn Griffiths. The compère was Gareth Griffiths.

Maenofferen Gallery

THE exhibition of various paintings by Roland George comes to an end this weekend. This will be followed by an Art Show by Age Cymru’s Wellbeing Centre’s Creative Hour and the Tan y Maen’s Art Sessions under the heading of New Light on Blaenau.

Cymdeithas y Gorlan

I ORFFEN y tymor cafwyd gwasanaeth cymun bore’r Groglith yng Nghapel Bethesda gyda Rhian Williams.

Clwb Cerdded Stiniog

TAITH nesaf fydd gyda Rhiannedd Llyn ddydd Sul nesaf, i gychwyn ger Ty Gorsaf am 9yb. Mae esgidiau cryf, dillad addas a phecyn o fwyd yn hanfodol i’r daith.

Ysgol Tanygrisiau

BU rhai o disgyblion yn Llechwedd yn ddiweddar.

“Mae entrepreneuriaid y dyfodol yn cael eu creu yn yr ysgol gynradd ar gymuned lleol,” meddai’r Criw Mentrus wrth gyflwyno i’r disgyblion yn ddiweddar.

Cafwyd gwledd o gyflwyniadau ddiddorol a llawn gwybodaeth gan entrepreneuriaid lleol wrth i’r disgyblion ystyried eu dyfodol a’r potential am dechrau busnes eu hunain oddi mewn i’r ysgol. Cafwyd straeon am sut y bu i rai o fusnesau mwyaf llwyddiannus gogledd Cymru gael genedigaeth wedi i un berson gael gweledigaeth a gwreithredu arni. Wedyn bu y plant yn wahanol siambr o dan ddaear ac yn gwrando ac y holi ar wahanol faterion oedd o’i cwmpas, yn ysu i gael gweld a gwybod mwy am hanes y diwydiant llechu. Diolch i bawb a’u arweiniodd o dan ddaear.

Resignation

FOLLOWING his recent election as the chair of the local Chamber of Commerce and Tourism, Kevin Baldwin has resigned after five years as a town councillor representing the Diffwys and Maenofferen ward. With his business and the plans he has for the old Jerusalem Chapel he feels that his priority is now with his new post which is so important for the town.

Clwb Merched

GWRAIG wadd nos Fawrth oedd Tanwen o gwmni Calon Mair a ddangosodd ei dawn eithriadol gyda botymau, sef lluniau mewn ffram, tustw priodasau, crysau T personol, bagiau a chlustogau. Cafwyd noson ddiddorol iawn â dawn cyfathrebu Tanwen yn wych. Gwesteion y te oedd Glenys a Ceris ac enillwyd y raffl gan Eirlys, rhoddwyd gan Carys. Diolchodd Ceris i Iona Jones, Bontnewydd, am ei haelioni i’r clwb.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]