THE latest community news from Blaenau Ffestiniog
Services
BETHESDA: United churches service with Richard Llwyd Jones.
Bethel, Ffestiniog: Rev Anita Ephraim, 10am.
Manod Orthodox: Third and Sixth Canonical Hours at 10am followed by Divine Liturgy of Saint John Chrysostom.
St David’s: Morning service at 11am.
St Michael’s: Morning service at 9.30am.
St Mary Magdalene: Mass at 11am with Father Shaji Punnati.
Holy Cross: Mass at 6pm on Saturday with Father Shaji Punnati.
Donations
DONATIONS of £300 were received in memory of the late David Gray of Wayside, 69, High Street towards the League of Friends of Bryn Beryl Hospital.
Choir
THE Moelwyn Choir, conducted by Sylvia Ann Jones and accompanist Wenna Francis Jones, were in concert at Betws y Coed on Friday with soloists Awel Jones and Tomos Heddwyn Griffiths and the compere was Gareth Griffiths.
Gallery
THE craft exhibition by the members of those who attend Stephen Owen art/craft classes which has been on show at the Maenofferen Gallery will come to an end this week.
This is to be followed by a variety of the artist and author Remy Dean’s craft work which will be on show there until 13 January and admission to the gallery is free during the library’s opening hours.
Cymdeithas Hanes
CROESAWODD y llywydd Robin Davies y gwr gwadd Tecwyn Williams i gyfarfod Cymdeithas Hanes. Testun ei sgwrs oedd ei dad, y diweddar T Glyn Williams a phrawf o boblogrwydd a pharch i Mr Williams oedd y nifer a ddaeth i wrando ar hanes ei fywyd.
Bu i Tecwyn ddechrau gan ddiolch i rai fu’n gymorth iddo baratoi y sgwrs, y teulu agos oedd wedi cadw cofnodion a lluniau, hefyd Eifion Lewis a Gareth Jones ac eraill.
Roedd Glyn yn un o 17 o blant wedi ei eni a’i fagu yn ardal Ardudwy â’i wreiddiau yn ddwfn yn ardal y Blaenau a Llanfrothen.
Cafodd ei eni yn 1913 a bu farw yn 2011 wedi oes o lafurio’n galed.
Roedd ei wraig yn hynod o ddylanwadol, nid yn unig gofalu am y teulu ond hefyd am y cymorth a roddodd i redeg y gwahanol fusnesion ei gwr.
Dechreuodd weithio yn y Wrysgan yn 1928 efo’i frawd mawr Wil a bu’n gweithio mewn wahanol chwareli cyn ymuno â’i frawd fel “scrap merchant” lle gwelodd fod dyfodol yn y busnes o redeg lorïau cario nwyddau, ond bod angen gweithio’n galed i sicrhau llwyddiant. Bu’n hynod anlwcus achos gorfu cau busnes pan i’r llywodraeth dweud yn 1950 y byddant yn mynd â’i lorïau oddi wrtho dan y Nationalisation Transport Act.
Ychydig ar ôl iddo brynu y Rock Garage bu i Cyngor Sir benderfynu lledu cornel Bwlch y Gwynt a rhoi ‘compulsary’ order ar y safle.
Cafwyd esiamplau o lle bu Glyn yn gweithio a lluniau llawer o’r gweithwyr.
Bu i Tecs sôn am waith cymdeithasol ei dad, yn helpu y Toc H, Gateway, Cyfeillion yr Ysbyty ac am ei barodwydd i gynnig cymorth i gario nyrsys yn ei gar amser eira mawr.
Roedd ganddo barch i’w weithwyr a’r neges fawr a ddysgodd Tecs gan ei dad oedd y pwysigrwydd efo gwaith o baratoi yn drylwyr achos “mi dalith yn y long run”.
Talwyd y diolchiadau gan Dafydd Lloyd Williams ac yn sicr cafodd y gynulleidfa ddarlun cynhwysfawr o fywyd ei dad gan Tecs.
Bydd y cyfarfod nesaf ar 15 Tachwedd, pryd bydd Peredur Hughes yn sôn am ‘Llechi Ysgrifennu’ a bydd rhifyn 2017 o Rhamant Bro ar werth yr un noson.
Clwb Merched
DYLAN Jones, Hengwrt oedd y gwr gwadd nos Fawrth yn dangos yr hen grefft o wneud ffaniau llechi a ddysgodd wrth wylio ei dad yn eu gwneud a rhaid bod â llygaid a llaw dda i hollti y lechen i drwch blewyn.
Rhoddwyd rhain yn anrheg priodas blynyddoedd yn ôl ac mae rhai yn gwerthu am gannoedd mewn ocsiwn erbyn heddiw.
Gwesteion y te oedd Joan, Christine ac Eirlys ac enillwyd y raffl gan Dot, rhoddedig gan Bet.
Bydd y cyfarfod nesaf yn CellB ar 16 Tachwedd.
Advice
A REPRESENTATIVE of the Citizens Advice Bureau will be available at the library on Mondays between 10am and 1pm, ready to deal with any relevant questions one might have and no appointments are needed to attend.
Fireworks
BLAENAU Bendigedig Group are once again organising the annual fireworks display on Sunday which this year will be at the Lakeside, Tanygrisiau with stalls etc on site open from 4pm and the display itself will be at 6pm.
It has also been reported that the group have been donated a £300 grant by the police towards the Firework Night which is very much welcomed.
Merched y Wawr y Blaenau
CYNHALIWYD cyfarfod Hydref ar nos Lun, y 23ain, yn y Ganolfan Gymdeithasol.
Atgoffwyd yr aelodau mai hwy sy’n cynorthwyo i blygu ‘Llafar Bro’ nos Fercher, 8 Tachwedd.
Bydd gwasanaeth Llith a Charol rhanbarth Meirionnydd nos Lun, 4 Rhagfyr, ym Mhenrhyndeudraeth.
Gwestai’r noson oedd Gwen Edwards o’r Parc, ger y Bala.
Bu’n athrawes y Gymraeg yn Ysgol y Moelwyn am 37 mlynedd, ac mae disgyblion heddiw yn ei chofio drwy gystadlu am ‘wobr Miss Eds’ yn flynyddol.
Mae hefyd yn barddoni, ac yn gynghanedd-wraig o fri.
Ond rhannodd â ni bedwar darn o gerddoriaeth sy’n rhan arbennig o’i bywyd – mae’n annodd ganddi ers yn ifanc iawn ddychmygu byd heb gerddoriaeth.
Diolchwyd am noson ddiddorol gan Megan, a chododd y cwestiwn – tybed beth fuasai dewis rhai o’r aelodau.
Cystadleuaeth y mis oedd ‘Drych’.
Daeth Ceinwen yn gyntaf, Mena yn ail a Marian yn drydydd.
Bydd y cyfarfod nesaf ar 27 Tachwedd, pan gawn sgwrs gan aelod o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Y gystadleuaeth fydd ‘hances boced’.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.