THE latest community news from Botwnnog.
Sefydliad y Merched
YNG Nghyfarfod Blynyddol y gangen nos Lun, 5 Rhagfyr, ail-etholwyd yr oll swyddogion fel a ganlyn: llywydd, Gwyneth Evans, Pont y Gof; ysgrifennydd, Dilys Jones, Bron Phillip; trysorydd, Shirley Evans, Y Graig. Gofalwyd am y bleidlais gan Elinor Rhys Williams, Penrhos yn ei swydd fel ymgynghorydd gwirfoddol y Sir.
Cyflwynwyd mantolen ariannol iach gan y trysorydd ac adroddiadau o gyfarfodydd y flwyddyn gan yr ysgrifennydd. Diolchodd y llywydd i bawb am eu hymdrechion i sicrhau blwyddyn foddhaol dros ben. Diolchodd Rhys Williams am y croeso a gafodd a llongyfarchodd yr aelodau am raglan ddiddorol a bywiog.
Manteisiodd pedair o’r aelodau ar ‘bursary’ y mudiad i fynychu cwrs ym Mhlas Tan y Bwlch a chlywyd bod Katie Jones wedi mwynhau’r cwrs addurno cacen Nadolig, tra bo Gwyneth Evans, Jean Evans a Dilys Jones wedi troi eu llaw at waith lledr. Clywyd hefyd bod dwy o’r aelodau wedi bod yng ngwasanaeth carolau y sefydliad yn y Ffôr.
Gofalwyd am y baned gan Dilys Jones, hefyd roddodd gwobr y raffl a enillwyd gan Katie Jones. Diolchwyd i bawb gan y llywydd.
Oedfa’r Sul
CYNHELIR gwasanaeth Nadolig y plant yng nghwmni’r gweinidog, y Parch R O Roberts yng Nghapel Rhydbach y Sul, 18 Rhagyr am 2yp.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.