THE latest community news from around Bronant.
Merched y Wawr
ER bod tymor y gangen wedi gorffen tan fis Medi, cawsom noson arbennig wrth anrhydeddu Sandra Morris Jones gyda swper ar 18 Mehefin.
Bydd yn cael ei hurddo yn Llywydd Cenedlaethol y Mudiad yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ym mis Awst; anrhydedd fawr a’r cyntaf erioed o gangen Bronant.
Cychwynnwyd yn gynnar am Dregaron a bu rhai yn Oriel Rhiannon yn gweld gwaith yr arlunydd Wynne Melville Jones, roedd sawl llun o’r ardal yno. Wedyn, teithiodd y bws i gyfeiriad Llambed a chyrraedd Cegin Gareth.
Cafwyd gwledd o bump cwrs wedi ei weini yn artistig iawn, gwledd i’r llygaid a chroeso arbennig gan Gareth.
Cafwyd gair o groeso gan ein llywydd Anne Gwynne, yn sôn am ein balchder o Sandra ac yn dymuno’n dda iddi yn y ddwy flynedd nesaf ac ar ran y gangen cyflwynodd Anne gloc mewn llechen Gymreig iddi.
Diolchodd hithau am y swper ardderchog, yr anrheg ac i’r gangen am bob dymuniad da.
Llongyfarchwyd Enid a Jacqueline am ddod yn gyntaf yn y dominos yn yr Wyl Haf; i Aeronwen am ddod yn gyntaf a thrydydd dros Gymru am wneud pice ar y maen ar ffurf calonnau; ac i Dorothy am ennill cwpan adran y coginio yn Sioe Aberystwyth.
Dymunwn wellhad buan i Tegwen Jones wedi ei llawdriniaeth yn Ysbyty Glangwili, a llongyfarchwyd Sandra ar enedigaeth wyr, ail fachgen bach i Heledd a Meic yng Nghaerdydd o’r enw Samuel Dewi a brawd bach i Will, ac i deulu Cwmcoy ar enedigaeth wyres a nith, merch fach o’r enw Hana Ann i Emma ac Eifion, yn Bethania.
Diolchodd Anne i Gareth am y bwyd hyfryd, i Mary ei fodryb am helpu gyda’r gweini, i Dorian gyrrwr y bws ac i Tim Jones, Llambed am dynnu llun.
Aeth pawb adref yn hapus wedi noson ardderchog. Edrychwn ymlaen yn awr at fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol a chymryd rhan yn y cyflwyniad i Sandra ar y dydd Mercher. Gwyliau hapus i bob aelod.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]




.png?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.