THE latest community news from Bronant

Merched y Wawr

LLYWYDD y noson ar 4 Hydref oedd Anne Gwynne a roddodd groeso i Donald Morgan, Blodau’r Bedal, Llanrhystud.

Mae Donald yn arbenigwr ar drin blodau.

Braint mawr i Donald oedd cael ei ddewis gan y Tair Sir a De Ceredigion i greu arddangosfa flodau ar ran Cymdeithias trefnu blodau Prydeinig NAFNS i fynd lan i sioe enwog Chelsea a chyfarfod â’r chwech arall oedd yn y tîm hefyd.

Gwelsom y lluniau o sut oedd yr arddangosfa yn edrych â’r anrhydedd ar y diwedd oedd ennill y Fedal Aur, camp arbennig.

Roedd y Frenhines yno a llawer arall o’r teulu brenhinol.

Wrth dderbyn y Fedal Aur roedd Donald yn edrych yn ddeniadol yn ei het dal ddu, crafat gwyrdd a cot cwt-fain ddu. Roedd llawer o bensiynwyr Chelsea yno yn eu cotiau coch hardd.

Cystadleuaeth y nos oedd ‘Blodau mewn rhywbeth bychan’, Donald wedi barnu fel hyn, allan o 14: 1 Edith Beynon, 2 Aeronwen Edwards, cydradd 3 Anne Gwynne ac Edith Beynon.

Darllenodd Llinos y cofnodion. Cafwyd munud o dawelwch i gofio am Megan James.

Tro nesaf bydd Nerys a David Bennett, Anrhegaron y dangos y nwyddau sydd yn eu siop yn Nhregaron.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]