THE latest community news from Cardigan
Trevelin
AETH 13 o flynyddoedd heibio heb fod yna unrhyw arwydd cyhoeddus yn Aberteifi bod y dre wedi’i gefeillio â Threvelin, tref fechan a saif dros 7,000 o filltiroedd i ffwrdd wrth droed mynyddoedd yr Andes ym Mhatagonia.
Ond diolch i rodd maer a maeres Aberteifi, John Adams-Lewis a Morina, ei wraig, ar ran Pwyllgor Gefeillio Aberteifi/Trevelin, Patagonia, fe nodir y berthynas barhaol rhwng y ddwy dre mwyach mewn plac ar wal yng nghei’r Tywysog Siarl.
Bydd y maer, a arwyddodd y ddogfen gefeillio yn swyddogol yn Nhrevelin nôl yn 2005, yn dadorchuddio’r plac dwyieithog, gyda geiriau Cymraeg a Sbaeneg arno, am 5yh dydd Gwener, 31 Awst.
Ymhlith y cwmni a fydd yn bresennol yn y seremoni gerllaw’r castell bydd ffermwr ifanc o Drevelin.
Y mae Alejandro Jones eisoes yn adnabyddus yn ei famwlad fel canwr, ond yn dilyn ei ymweliadau diweddar â Chymru, daeth yn enw cyfarwydd i gynulleidfaoedd yma yn ogystal.
Dwy awr ar ôl gwylio seremoni dadorchuddio’r plac bydd Alejandro yn ymuno â dau o denoriaid poblogaidd Cymru, Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies, ar lwyfan cyngerdd arbennig yng Nghastell Aberteifi.
Bydd y tri ohonynt, ynghyd â thelynorion ifanc o Glwb Telyn y Castell, o dan arweiniad Meinir Heulyn, yn rhoi eu gwasanaeth am ddim er mwyn i elw’r noson fynd at hyrwyddo’r ysgol Gymraeg newydd a agorwyd yn Nhrevelin.
Un o delynorion ifancaf y Clwb Telyn yw Alwenna Mair Owen, naw oed, o Lanllwni ger Llanybydder.
Bydd hithau hefyd yn unawdydd yng nghyngerdd y castell. Cystadlodd Alwenna yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni pryd dyfarnodd y beirniad, Rhys Meirion, y wobr gyntaf iddi allan o 50 o gystadleuwyr yn yr unawd telyn dan 12.
Bydd yn perfformio unawd telyn ac unawd cerdd dant yn y gyngerdd.
Yn ystod y noson cyflwynir rhodd gan yr artist Meirion i Bwyllgor Gefeillio Aberteifi/Trevelin, sef ei bortread lliw o Vincente Evans, un o gymeriadau enwog y Wladfa a ganodd i gyfeiliant ei acordion i ddiddanu llaweroedd lawer o Gymry a ymwelodd â Phatagonia.
Gosodir y print rhif 1, wedi’i fframio, mewn raffl yn ystod y gyngerdd, gyda’r elw’n mynd i hyrwyddo Ysgol y Cwm, Trevelin.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.