THE latest community news from Cardigan
Cerddwyr Cylch Teifi
AR eu taith gyntaf yn y flwyddyn newydd, bu Gareth a Mer Evans yn eu harwain yn ardal Hermon a’r Glog.
Taith gylch weddol fer oedd hi, rhyw dwy filltir ar ffyrdd caled, o Gapel Hermon i lawr i’r Glog, trwy’r pentref, lan i heol dawel arall ac yn ôl i’r man cychwyn.
Roedd yn ddiddorol iawn clywed pa mor brysur roedd y Glog yn arfer bod, gyda Chwarel y Glog, mwyngloddiau plwm Llanfyrnach, a’r rheilffordd.
Aeth y rhan fwyaf ohonynt ymlaen i fwynhau s?p blasus wedyn yng Nghegin Bella, Canolfan Hermon.
Ar 8 Chwefror, awn i ardal Abergwaun lle bydd Siân Bowen yn arwain.
Byddwn yn gadael maes parcio’r dref (’Y Wesh’ - SM 954371; SA65 9NG) am 10.30yb.
Mynd ar daith o amgylch Abergwaun (2½ milltir, hyd at 2½ awr) ar hyd rhan o lwybr Arfordir Cymru a llwybrau cyhoeddus eraill.
Mae’r llwybrau yn gadarn (tarmac ar y cyfan) ond mae ambell fan yn serth. Does dim sticlau.
Bydd yr esgyniad tua 360 troedfedd.
Bydd y pwyntiau o ddiddordeb yn cynnwys Hanes Glaniad y Ffrancod 1797; hanes porthladd Wdig a rheilffordd Abergwaun; ymweld â cherrig Gorsedd Eisteddfod Abergwaun 1936; cofeb D.J. Williams; carreg fedd Jemima Nicholas (arwres ‘Glaniad y Ffrancod’); golygfeydd godidog o harbwr Wdig a Chwm Abergwaun. Cawn gymdeithasu dros luniaeth wedyn yn nhafarn y Royal Oak.
Darllenwch fanylion y teithiau i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol; dewch â dillad addas, yn enwedig esgidiau sy’n gymwys i dir gwlyb ac anwastad; a chymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded ar hyd ffyrdd heb balmant neu ar lethrau serth.
Os nad ydych chi wedi cerdded gyda’r gr?p o’r blaen, cysylltwch i gael y manylion llawn ac i ddod ar y rhestr bostio: philippa.gibson@ gmail.com neu 01239 654561.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.