The latest community news from Ceredigion

Tymor Newydd Cymdeithas Ceredigion

CYNHELIR cyfarfod cyntaf ein tymor newydd nos Sadwrn yma, 7 Medi am 7yh yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes a thestun y noson fydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.

Bydd aelodau o’r Gymdeithas yn lleisio barn ar y cyfansoddiadau buddogol a disgwylir y bydd sawl enillydd yn bresennol i glywed eu barn, ac i ymateb iddi, wrth i’r drafodaeth fynd ymlaen dan ofal prifardd sydd am aros yn ddienw.

Disgwylir cryn dipyn o ddadlau a digon o hwyl.

Fel arfer mae gan y Gymdeithas raglen lawn o gyfarfodydd misol sydd wedi’u trefnu eleni gan ein llywydd newydd, Robin Tomos, Talgarreg, a’r pwyllgor.

Croeso i aelodau newydd, ceir ymuno ar ddechrau pob cyfarfod; ymholiadau i’r ysgrifennydd aelodaeth, Howard Williams: 01239 682182 [email protected]

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]