THE latest community news from Ceredigion

Cymdeithas Ceredigion

AR NOSON oer a chawodlyd daeth nifer go lew i Gaffi Emlyn, Tan-y-groes, i wrando ar y sgwrs gan Hefin Wyn, Maenclochog, am Bachan Diaich.

Cyflwynwyd Hefin gan Emyr Llywelyn gan bwysleisio mawredd y bachgen dieflig hwn, sef Niclas y Glais, testun y cofiant diweddaraf gan Hefin i wyr mawr Sir Benfro.

Ac yn wir, cafodd y gynulleidfa flas ar fywyd yr hen Niclas wrth i Hefin roi amlinelliad o’i fywyd lliwgar.

Gweinidog yr Efengyl, bardd, heddychwr a deintydd oedd Thomas Evan Nicholas a fu farw yn 1971 dros ei 90 oed, ond, fel y pwysleisiodd ein siaradwr gwadd, fwyaf oll roedd yn sosialwr rhonc.

Cafodd ei fagu ar dyddyn bach ar lethrau’r mynydd ger Pentregalar cyn mynd i Ysgol y Gwynfryn yn Rhydaman i baratoi at y weinidogaeth. Rhwng 1901 a 1918, Niclas oedd y gweinidog yng nghapeli’r Annibynwyr yng Nghymru a hefyd, am gyfnod byr, yn Wisconsin yn yr Unol Daleithiau.

Treuliodd 10 mlynedd yng Nghapel Seion yn y Glais, ger Abertawe, pan ymunodd â’r Blaid Lafur Annibynnol a mynd yn gyfaill agos i Keir Hardie. Ar ôl iddo yntau farw safodd Niclas dros ei blaid yn hen sedd seneddol Hardie. Cyfiawnder cymdeithasol i bobl ddifreintiedig oedd ei thema mawr, naill ai yn y pulpud ar sail darlleniad radical o’r Testament Newydd neu ar y llwyfan gwleiddydol. A ‘segurwyr’ a militariaeth oedd ei brif elynion.

Ar ôl gadael y weinidogaeth yn 1918 a chael ychydig o hyfforddiant aeth Niclas yn ddeintydd gan dynnu dannedd (a mercheta) ym Mhontardawe ac wedyn yn Aberystwyth. Parhaodd i bregethu ac i wleidydda’n ddiflino fel colofnydd a siaradwr huawdl, dros y Blaid Gomiwnyddol erbyn hynny.

Trwy ei fywyd roedd Niclas yn fardd toreithiog a themâu sosialaidd yn gyson yn ei waith. Roedd y cyfnod ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, pan gafodd ef a’i fab eu carcharu ar gyhuddiad (hollol anghredadwy) o fod yn Ffasgaidd, yn arbennig o ffrwythlon yn hyn o beth.

Enillodd sawl cadair eisteddfodol ac roedd Hefin yn cael ar ddeall taw fe oedd yn ail yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon rhwng y rhyfeloedd byd.

Wrth ddod â’r noson i ben, rhoddodd Carol Byrne Jones, is-lywydd y Gymdeithas, ddiolchiadau i Hefin am sgwrs gofiadwy.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]