THE latest community news from Ciliau Aeron
Eisteddfod
CYNHALIWYD Eisteddfod Fawreddog Ciliau Aeron ar nos Wener, 3 Tachwedd.
Llywydd y noson oedd Marie Jones, Tanybryn, Aberarth, a’r beirniaid oedd Carol Davies, Henllan (cerdd) ac Owenna Davies, Ffostrasol (llefaru a llenyddiaeth).
Arweinwyr y noson oedd Betty Davies a John Jones, a’r gyfeilyddes oedd Eirian Jones, Cwmann.
Cafwyd noson hwyliog o gystadlu, ac enillydd Tlws yr Ifanc (dan 25 oed) am ddarn o ryddiaith oedd Sioned Medi Howells o fferm Pantglas, New Inn, Pencader.
Fel rhan o’r eisteddfod, cynhaliwyd cystadlaethau cerdd, llefaru, llawysgrifen ac arlunio i blant Ysgol Ciliau Parc ar 10 Tachwedd. Cafwyd cystadlu brwd a graenus gan bawb.
Diolch i’r plant, y rhieni a’r athrawon am eu cefnogaeth, eu brwdfrydedd a’u hymroddiad.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.