THE latest community news from Clynnog

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

DYDD Sadwrn traddodwyd dwy ddarlith o’r radd flaenaf yn y gyfres Ein Gwir Hanes, y naill gan yr Athro Tony Carr ar Dafydd Dywysog; “yr ola’ eiddila o’i lin” a’r creulondeb eithaf a ddioddefodd, a’r llall gan y Prifardd Ieuan Wyn ar dynged eithriadol o drist etifeddion Dafydd a Llywelyn (Gwenllian, Llywelyn ap Dafydd, Owain ap Dafydd a Gwladus a’i chwe chwaer).

Cafwyd trafodaethau bywiog ar ddiwedd pob darlith.

Bydd y cyfarfod nesaf am 7yh nos Wener, 27 Hydref, pan geir sgwrs gan Llion Jones, ar y testun ‘Ar Daith gydag ef ei hun: Golwg ar ddyddiaduron taith T H Parry-Williams’.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]