THE latest community news from Criccieth

Merched y Wawr.

AETH 13 o aelodau’r cangen i ymweld ag Amgueddfa Forwrol, Nefyn, nos Fawrth, 13 Mehefin, lle cafwyd croeso cynnes a sgwrs ddiddorol gan Meinir Pierce Jones.

Mae’r amgueddfa yn werth i’w gweld ac yn llawn trysorau a gwybodaeth gydag ôl paratoi manwl a chelfydd iawn arni. Wedi’r mwynhâd a gafwyd yn yr arddangosfa sydd wedi ei lleoli mewn rhan o’r eglwys hynafol, cafwyd swper blasus yng Ngwesty Nanhoron a hynny yn ddiweddglo difyr, ar noson braf, i’r daith flynyddol.

Cymdeithas Ddiwylliadol Capel y Traeth

DYDD Mercher, 28 Mehefin, rhagolygon tywydd go dorcalonnus oedd i’r diwrnod, ond braf ydy cael dweud nad felly y bu, gan fod aelodau yn mynd ar eu taith flynyddol i ardal Dyffryn Ogwen.

Cafwyd tywydd sych bron gydol y dydd, a phawb yn edrych mlaen at gael ein tywys ar ein taith gan Dr J Elwyn Hughes, un sydd wedi ei eni a’i fagu yn Nyffryn Ogwen.

Mae’n awdur toreithiog ac yn arbenigwr ar fywyd a gwaith Caradog Prichard, mae ganddo ddiddordeb mawr yn hanes a llenyddiaeth ardal Dyffryn Ogwen ac mae’n brysur bob amser yn cadw pob dim posib a rydd ychydig o hanes o’r Dyffryn.

Cynhelir cyfarfod cyntaf 2017/18 nos Fawrth, 18 Medi, am 7.15yh gyda Gareth Williams yn roi sgwrs ar R S Thomas.

Taith gerdded

DAETH nifer o aelodau’r Clwb Sul a Chapel y Traeth ynghyd fore Sadwrn, 1 Gorffennaf, i gerdded o Feddgelert i Nantgwynant.

Braf yw gallu dweud fod oddeutu 20 o oedolion a 30 o blant. Roedd rhai mor ifanc a dwy flwydd ac eraill tipyn yn hyn, ond yr un mor heini.

Dafydd Henry Williams oedd yn ein harwain, roedd y trefniadau yn ardderchog â phawb wedi mwynhau’r golygfeydd godidog wrth gerdded ar hyd llwybr glan Llyn Dinas wrth droed y Wyddfa.

Wedi dwy awr o gerdded, mae’n rhaid cael lluniaeth wrth gwrs, a lle gwell ond Caffi Gwynant, lle roedd croeso cynnes yn ein haros a phawb wedi mwynhau.

Bydd gennym daith gerdded eto, fore Iau, 27 Gorffennaf, yn ardal Dolwyddelan a’r Wybrnant. Mae croeso cynnes i bawb ymuno â ni, cychwyn o’r maes parcio tu ôl i’r stryd fawr am 10yb.

Clwb y Deillion

ELENI eto cafwyd gwibdaith lwyddiannus iawn gyda’r mwyafrif o’r aelodau a chyfeillion y clwb yn dod at ei gilydd brynhawn Iau, 15 Mehefin.

Gyda Derek wrth y llyw, gadawsom Borthmadog am 2yp a mynd ar daith ddiddorol ar hyd yr arfordir drwy Griccieth, i’r Ffôr,a thrwy Llanaelhaearn.

Roedd y tywydd yn hynod o braf, a chafwyd golygfeydd godidog o’r wlad a’r môr – mae rhywun yn gweld llawer mwy o fws yn tydi!

Cyrhaeddom Winllan Pant Du erbyn 4yp, lle cawsom groeso cynnes gan Iola, Glesni a’r criw.

Roedd pryd cartref wedi ei baratoi ar ein cyfer, roedd pawb yn canmol y bwyd blasus a gafwyd, ac yn dra ddiolchgar i’r staff a oedd mor garedig, cwrtais ac annwyl wrth weini arnom, doedd dim yn ormod o drafferth.

Wedi’r bwyd a chyfle i gael sgwrs, cafwyd taith esmwyth yn ôl i Port, a chyrhaeddodd pawb pen eu taith yn ddiogel.

Cynhelir ein cyfarfod cyntaf am y flwyddyn nesaf bnawn Iau, 21 Medi, yn y Ganolfan fel arfer; edrychwn ymlaen i’ch gweld.

RNLI

THE RNLI shop and Boatshed will be open from 11am to 8pm daily from Monday, 24 July.

There will be lots of things to see and buy, all of which go towards helping to keep our voluntary crews afloat and all of us safe on or beside the sea.

The shop is also always happy to welcome new volunteers. Details are available from shop staff or by calling 01766 522799.

Prize winners

A CASH prize awaits two winners who entered a competition at a school fair.

Rob Rhys and Alice Roberts both entered a ‘score cards’ competition on Thursday, 6 July, and have now won £20 each.

The event, run at Ysgol Treferthyr’s summer fête, helped raise well over £50 for the primary school.

Rob won the first sheet by drawing number 12 whereas Alice won the second after drawing number five.

To claim your prize, call Ifan John Roberts on 01766 523143.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]