THE latest community news from Cwmann
Ffermwyr Ifanc
Daeth llwyddiant ysgubol i aelodau CFfI Cwmann yn yr eisteddfod sir eleni. Llwyddodd y clwb i gipio’r drydedd wobr yng nghystadleuaeth y sgets, dawnsio disgo, ac ensemble lleisiol.
Cafodd Elan Jones y drydedd wobr yn y gystadleuaeth llefaru dan 16 oed a’r unawd offerynnol dan 26 oed, tra cipiodd Alpha Evans yr ail wobr yn yr unawd offerynnol dan 26 oed a Beca Jones ac Elan Jones yn llwyddo i gyrraedd yr ail safle yng nghystadleuaeth y ddeuawd dan 26 oed.
Llwyddodd Carys Thomas i ennill yr ail wobr am ysgrifennu sgets wreiddiol, â’r clwb yn fuddugol yng nghystadleuaeth y meimio.
Cipiodd Dafydd a Daniel y drydedd wobr am greu llyfr lloffion o weithgareddau’r clwb.
Wedi dwy noson a diwrnod o gystadlu brwd a llwyddiannau di-ri, i goroni’r cyfan fe wnaeth y clwb orffen yn yr ail safle.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.