THE latest community news from Cwmsychpant

Lansiad llyfr

MAE digwyddiad ar y gweill y penwythnos yma i gofio a chydnabod cyfraniad y gwyddonydd byd enwog, yr Athro Evan James Williams.

Yn ffisegydd o Gwmsychbant, ger Llanwenog, cafodd ei ddisgrifio gan Syr John Meurig Thomas fel “un o’r bobl fwyaf galluog a gynhyrchodd Cymru erioed”. Bu farw o gancr yn 1945 yn ddim ond 42 oed.

Bydd llyfr gan Roland Wynne o’r enw ‘Evan James Williams - Ffisegydd yr Atom’ yn cael ei lansio yn y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal yng Nghapel y Cwm, ddydd Sadwrn, am 2yp.

Dyma’r llyfr cyntaf i’w gyhoeddi yn Gymraeg yn y gyfres Gwyddonwyr Cymru gan Wasg Prifysgol Cymru.

Dywedodd Syr Thomas am y llyfr: “Fe all y lleygwr ddeall yn union ramant y wyddoniaeth a mwynhau’r straeon diddorol a ddisgrifir gan Roland Wynne.”

Ac yn ôl yr Athro Glyn O Phillips: “Portread cynnes a darllenadwy o wyddonydd mwyaf Cymru. Perl o lyfr.”

Yn ôl Syr Thomas, yr Athro Evan James Williams oedd “un o’r bobl mwyaf galluog a gynhyrchodd Cymru erioed”.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]