THE latest community news from Cwmystwyth

Eisteddfod Gadeiriol

BEIRNIAID yr eisteddfod oedd dau Gardi.

John Meurig Edwards, Aberhonddu, ond yn wreiddiol o Bontrhydygroes, oedd yn gyfrifol am yr ochr lenyddol a’r llefaru.

Meinir Jones Parry, Caerfyrddin, ond yn wreiddiol o Aberteifi, oedd yn gyfrifol am yr ochr gerddorol.

Cyflwynwyd y llywydd, sef Marian Weston o Gomins Coch, gan Edgar Morgan. Roedd tad Marian, Carellio Morgan, yn hanu o deulu’r Mroganiaid Tynrhyd.

Roedd seremoni’r cadeirio yn nwylo medrus Elen Lewis. Testun cerdd y gadair oedd ‘Crwydro’ ac ymgeisiodd 18 amdani.

Y bardd buddugol oedd Hedd Bleddyn, Penegoes, ond yn wreiddiol o Lanbrynmair.

Mae gan Hedd gysylltiad agos â Chwmystwyth gan iddo briodi Marian Davies, un o ferched Bryn Peiran.

Dywedodd am ei gerdd: “Lluniais y gerdd hon fel petai Brython fy mrawd yng nghyfraith a fagwyd yn y cwm ac a ddaeth yn ôl yn ei ymddeoliad a dod o dan ddylanwad Merêd wedi ei chyfansoddi am Gwmystwyth.”

Alun Jenkins o Bontarfynach oedd gwneuthurwr y gadair fechan hardd gyflwynodd y gadair i Hedd.

Derbyniodd hefyd £100 gan deulu Pentre er cof am Gwyn.

Efan Williams o Ledrod seiniodd y corn gwlad a chanwyd Cân y Cadeirio gan Lyndsey Cameron, arweinydd Côr Merched Bro’r Mwyn.

Cyfansoddwyd penillion i gyfarch y bardd buddugol gan Dr Islwyn Edwards, y bardd cadeiriol llynedd, ond am ei fod yn methu bod yn bresennol fe’i cyfarchiwyd gan Aled Evans.

Cyrchwyd y bardd gan Mair Jones a Swyn Melangell Hughes.

Treuliodd criw ffilmio ‘Cynefin’ gyfnod yn yr eisteddfod.

Dyma’r canlyniadau: Canu: Unawd Cyfyngedig Cyfnod Sylfaen, Magi Jones, Syr John Rhys; Unawd agored Cyfnod Sylfaen, Magi Jones, Ponterwyd; Unawd agored Bl 3 a 4, Gwenan Jones, Ponterwyd; Unawd agored Bl 5 a 6, Ifan Williams, Tregaron; Canu Emyn dan 12 oed, Elin Williams, Tregaron; Unawd ar unrhyw offeryn cerdd oed cynradd, Elin Williams, Tregaron; Unawd dan 16 oed, Zara Evans, Tregaron; Unawd ar unrhyw offeryn cerdd – oed uwchradd, Soffia Nicholas, Aberystwyth; Canu Emyn dan 60 oed, Guto Lewis, Llanon; Alaw Werin Agored, Efan Williams, Lledrod; Canu Emyn dros 60 oed, Hywel Anwyl, Llanbrynmair; Cân Bop neu allan o Sioe Gerdd, Guto Lewis, Llanon; Unawd Gymraeg, Marianne Jones Powell, Llandre; Her Unawd, Efan Williams, Lledrod; Parti Canu, Parti Camddwr; Sgen Ti Dalent dan 16 oed, Zara Evans, Tregaron; Sgen Ti Dalent dros 16 oed, Merched Bro’r Mwyn; Côr, Merched Bro’r Mwyn

Llefaru: Bl 3 i 6 Cyfyngedig, Malen Davies, Mynach; Cyfnod Sylfaen Agored, Meia Evans, Llanfihangel-y-Creuddyn; Agored Bl 3 a 4, Mari Williams, Tregaron; Agored Bl 5 a 6, Elin Williams, Tregaron; Dan 16 oed, Zara Evans, Tregaron; Dan 21 oed, Swyn Hughes, Dinas Mawddwy; Dysgwyr, Sandy Neville, Cwmystwyth; Adrodd Digri, Alun Jenkins, Pontarfynach; Darllen darn o’r Ysgrythur, Gwyneth Davies, Pontrhydygroes; Darllen i ddysgwyr, Nicholas Shilton, Aberystwyth; Parti Llefaru Dysgwyr, Parti Brython; Parti Llefaru Agored, Merched y Wawr Mynach a’r Cylch; Ysgrif/Stori, Megan Lewis, Llanfihangel-y-Creuddyn; Brawddeg, Mary B Morgan, Llanrhystud; Limrig, Megan Richards, Aberaeron.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]