THE latest community news from Edern

Ysgol Edern

AM y tro cyntaf erioed, cynhaliwyd eisteddfod yn Ysgol Edern a chafwyd diwrnod i’w gofio.

Yn goron ar flwyddyn o weithgareddau llwyddiannus a hapus, trefnodd aelodau o’r Cyngor Ysgol eisteddfod a chafodd pob disgybl gyfle i arddangos eu doniau mewn sawl maes, ac roedd safon y cystadlu yn hynod o uchel.

Pinacl y diwrnod bythgofiadwy hwn oedd y seremoni cadeirio a cafodd y beirniad llên a llefaru, Esyllt Maelor, y fraint o gyflwyno cadair i ddau lenor addawol sef Mia Nel Jones, enillydd cystadleuaeth Cyfnod Sylfaen, ac Arthur Eifion Hughes, a enillodd gadair Cyfnod Allweddol 2.

Perfformiwyd dawns yn ystod y seremoni gan ddisgyblion Bl 3 a 4 a chanwyd Cân y Cadeirio gan Glesni Owen, a oedd hefyd yn arweinydd yr eisteddfod.

Dyfarnwyd y gadair i Mia am stori: ‘Mynd am Dro i Gerddi Bodnant ’ a theitl stori buddugol Arthur oedd: ‘Diwrnod i’w Gofio - Tabogan’s Taid.’

Beirniaid eraill yr eisteddfod oedd: rhagbrofion, Rhiain Awel Dyer; cerdd: Alwena Roberts; dawns: Poppy Hookings (cyn-ddisgybl); celf: Elin Huws; coginio: Sioned Williams; cynnyrch cartref: Eurwyn a Rhian Evans.

Braf oedd croesawu cyn-ddisgybl arall i roi help llaw gyda’r cyfeilio, sef Swyn Williams.

Trefnwyd arddangosfa er mwyn gweld gwaith y disgyblion a fu’n cystadlu yng nghystadlaethau coginio a chelf yr eisteddfod.

Enillydd Tlws Perfformiwr Mwyaf Addawol yr eisteddfod oedd Cian Jones, a gipiodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth llefaru Bl 3 a 4.

Cafwyd cystadlu br?d drwy’r dydd ond y tîm a gafodd y marciau uchaf oedd Yr Eifl a chyflwynwyd y darian wydr hardd i’w capten, Angharad Lloyd Davies.

Garn Fadryn a oedd yn yr ail safle ac yn drydydd, Garn Boduan.

Yn sicr cafwyd eisteddfod werth chweil ac yn brofiad y bydd holl ddisgyblion a staff Ysgol Edern yn ei gofio a’i drysori am amser maith.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]