THE latest community news from Felinfach

Côr Cymysg Bro Meirion

BRAINT fydd cael croesawu un o gôrau cymysg gorau Cymru i Theatr Felinfach ar nos Sadwrn, 22 Medi.

Ymysg yr artistiaid fydd dau o enillwyr cenedlaethol, sef yr arweinydd ei hun, y Milfeddyg Iwan Wyn Parry (Y Rhuban Glas) ac Edryd Williams cyn-enillydd yr Alaw Werin yn y brifwyl.

Mae’r côr ei hun yn gyn-enillwyr yn y gystadleuaeth Corau Cymysg ac eleni mewn cystadleuaeth wych, dyfarnwyd y côr yn ail allan o saith o gorau yn Eisteddfod Caerdydd.

Byddwn hefyd yn rhoi llwyfan i enillwyr y plant a’r bobl ifanc a fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd.

Mae yna noson wirioneddol wych yn eich disgwyl.

Gwnewch yn siwr o’ch tocyn drwy gysylltu gyda’r theatr ar unwaith - ffôn: 01570 470697.

Bydd eisteddfod RTJ yn Llambed yn gwerthfawrogi eich presenoldeb a’ch cefnogaeth yn fawr iawn.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]