THE latest community news from Lampeter

Summer School

THE end of May and first week of June saw the sixth Dylan Thomas International Summer School take place at the University of Wales Trinity Saint David.

Organised by the English and Creative Writing department and the American writer Pamela Petro, 16 international students spent 10 days exploring the literary and cultural delights of Wales and attended writing workshops.

The week included readings open to the public by Gwyneth Lewis, Menna Elfyn, Samantha Wynne Rhydderch, Sion Tomos Owen, and Gary Owen. The culmination of the week was a Poets and Pioneers evening at The Castle Green where members of Lampeter’s Poets and Peasants Group and Lampeter Writers’ Workshop read and sang with the students.

Bedyddwyr

Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Bedyddwyr cylch Caio a Llanbedr Pont Steffan ar brynhawn hyfryd o Fai yng Nghapel Salem.

Llywyddwyd yn fedrus gan Siân Roberts Jones o Gaersalem ac estynnodd groeso cynnes i bawb oedd wedi dod ynghyd i ganu mawl i Dduw. Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan Elin Lloyd Williams a Carys Thomas, Salem.

Er bod mwyafrif o’r plant, oedd wedi eu paratoi gan Janet, yn ifanc iawn, roedd pob un ohonynt wrth eu bodd yn canu a chyhoeddi’r emynau.

Mwynhawyd gwledd yn eu cwmni dan arweiniad Emlyn Davies a phob un yn ymateb yn dda i’w gyfarwyddiadau. Roedd gweld eu brwdfrydedd wrth ganu Cristion Bychan yn codi gwên.

Cyfoethogwyd y Gymanfa yn fawr gan unawdau swynol Elan Jones a Lisa Evans o Noddfa i gyfeiliant Alwena. Hefyd yn ystod y prynhawn cafodd y plant llawer o bleser yn gwrando ar y llywydd yn cyflwyno stori ddiddorol yn cynnwys neges bwysig i bawb.

Er nad oedd rhif yr oedolion, yn enwedig y dynion, yn niferus iawn, roedd yr arweinydd yn uchel iawn ei ganmoliaeth o’r canu.

Mae Emlyn yn arwain mewn ffordd mor gartrefol a di-ffws. Mae’r ddyled yn fawr iddo am arwain y rihyrsals ers dros 30 mlynedd.

Ar ddiwedd y prynhawn diolchodd y llywydd i Emlyn am ei wasanaeth clodwiw, i Elfyn am ei gyfraniad amhrisiadwy wrth yr organ, i’r rhai oedd wedi cymryd rhan, i swyddogion ac aelodau Salem am eu croeso a’r te ardderchog oedd yn ein disgwyl, i Janet am eu threfniadau trylwyr ac i bawb oedd wedi dod ynghyd.

Diolchodd Emlyn am yr anrhydedd o gael arwain a thalodd deyrnged uchel i’r plant a’r oedolion am eu canu bendigedig, i Elfyn am ei gymorth mawr, i Eiry Jones am arwain rihyrsal yr oedolion ac i Janet am ei help mawr gyda’r paratoadau.

Traddodwyd y fendith gan y Parch Jill Tomos. Daeth prynhawn hyfryd i ben wrth i bawb gymdeithasu o amgylch y byrddau oedd yn llawn danteithion o bob math.

Noson Lawen

Mae aelodau Aelwyd ac Adran yr Urdd Llambed yn edrych ymlaen i ganu dan arweiniad Rhiannon Lewis a Lois Williams yn cyfeilio mewn Noson Lawen bydd yn cael ei recordio yng Nghanolfan Hamdden y dref nos Wener, 15 Mehefin.

Hefyd yn cymryd rhan bydd Rhys Meirion, Côr Merched Ger y Lli ac eraill, gyda Sorela yn cyflwyno. Mae’r tocynnau, pris £5 ar gael gan Janet a Llinos. Bydd yr elw yn mynd tuag at gronfa’r Adran a’r Aelwyd.

Church Services

Sunday, 17 June: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Morning Worship, bilingual.

Bridge Club

Nigel and George got most things right in the last match and came out on top with an excellent 65 per cent.

Leading pairs were: 1. George Kenchington and Nigel Symmons- Jones, 65 per cent; 2. Andrew Phillips and Dai Hayes, 55 per cent; 3. Keith Bellamy and John Evans, 50 per cent

The club meet every Tuesday at Hafan Deg retirement home, at 6.45pm.

Visitors and learners welcome and lessons are available – call Keith on 01974 298811.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]