THE latest community news from Lampeter
Ysgol Sul
BU’R flwyddyn aeth heibio yn un lwyddiannus unwaith eto yn hanes yr Ysgol Sul â’r aelodau yn mynychu’n ffyddlon bob nos Wener a’r rhieni yn cymryd eu tro i gynorthwyo.
Bu’r plant a’r bobol ifanc yn cymryd rhan yn Oedfaon yr Ifanc, yn y Gymanfa Ganu ac yn diddori’r Henoed yng Nghartref Hafandeg â phob amser yn rhoi o’u gorau â phawb yn cael pleser mawr o wrando arnynt. Er bod nifer ohonynt yn ifanc iawn maent mor frwdfrydig ac yn rhoi gwên ar wynebau eu cynulleidfa wrth gymryd rhan yn Oedfaon yr Ifanc. Braf oedd croesawu aelod newydd yn ddiweddar sef Hari Evans, Stryd Newydd ac mae wedi setlo lawr yn hapus iawn yn ein plith.
Nos Wener, 6 Gorffennaf, am 4.15yp bydd yr aelodau yn diddori preswylwyr Hafandeg unwaith eto.
Mae’r henoed bob amser yn falch iawn o’u croesawu ac yn mwynhau eu cyfraniad yn fawr.
Bydd gwyliau wedyn dros yr haf.
Dymuna Janet ddiolch o galon i’r plant a’r bobol ifanc am eu ffyddlondeb a’u teyrngarwch ac i’r rhieni, yn enwedig Llinos am eu cydweithrediad parod bob amser.
Edrychwn ymlaen at gyd weithio hapus eto ym mis Medi.
Daeth llwyddiant mawr i ran ieuenctid Noddfa yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.
Cipiodd Cerys Angharad y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth yr unawd telyn dan 12 oed am berfformiad hynod feistrolgar o un mor ifanc.
Hefyd enillodd Elan a’i ffrind Beca Ann y wobr gyntaf yn y ddeuawd cerdd dant dan 19 oed.
Roedd nifer o’r merched yn aelodau grwp llefaru Aelwyd Llambed a ddyfarnwyd yn gyntaf a hynny am y drydedd flwyddyn yn olynol dan hyfforddiant Elin heb anghofio Trystan Bryn oedd yn aelod o barti dawnsio gwerin buddugol Adran Penrhyd.
Hefyd enillodd Beca y drydedd wobr am ysgrifennu barddoniaeth.
Bu’r flwyddyn hyd yma yn un anhygoel i Cerys Angharad, gan ddechrau drwy ennill yr unawd telyn dan 12 oed yn yr Wyl Gerdd Dant ynghyd â’r unawd offerynnol yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid.
Yn ogystal â dod i’r brig yn Eisteddfod yr Urdd, fe’i dewiswyd fel aelod o Gerddorfa Plant Prydain Fawr a hefyd fel aelod o Gôr Only Kids Aloud.
Mae pawb ohonom yn ymfalchïo yn ei llwyddiant. Pob lwc i ti eto Cerys yn y dyfodol.
Oes, mae yna dalent arbennig yn perthyn i blant a phobl ifanc Noddfa ac estynnir llongyfarchiadau calonnog i bob un ohonynt a dymuniadau gorau eto i’r dyfodol.
Diolch iddynt am fod mor barod i rannu eu doniau gyda ni yn Noddfa. Gwerthfawrogir eu gwasanaeth yn fawr iawn.
Bridge Club
THE other night the club entered a ‘simultaneous pairs’ competition.
This entails clubs from all over the UK sending in their results and these are then compared to produce overall winners.
In essence, members are playing against hundreds of players from all over Britain.
At the club, each table has a ‘bridgemate’ where each result is entered, this passes wirelessly to the computer where the results are calculated.
On this occasion, of all evenings, unknown to us, the computer decided to install updates and restart.
The results are lost and they can’t retrieve them.
They play every Tuesday at Hafan Deg retirement home, start at 6.45pm.
If you’re interested in learning, why not contact Keith on 01974 298811 for lessons.
Visitors always welcome.
St Peter’s Church
FRIDAY, 6 July: Monthly lunch in aid of Christian Aid, 12pm-1.30pm in the Church Hall.
Sunday, 8 July: 8am, Holy Communion in English; 10.30am, Holy Communion - bilingual.
St Mary’s Church, Maestir
2.30pm, Holy Communion in English.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.