THE latest community news from Lampeter

Shiloh a Soar

Cychwynnodd llond bws o aelodau Cymdeithas Shiloh a Soar tua’r gogledd yn ddiweddar o dan haul Mehefin.

Anelai’r criw am Ganolfan Mary Jones yn Llanycil, Y Bala a’r Ysgwrn cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd.

Twynog Davies oedd y capten ac fe lywiodd y daith mewn modd tu hwnt o ddiddorol. Bwydodd wybodaeth berthnasol ynglyn â gwahanol enwogion ac adeiladau ar y ffordd cyn cael coffi yn Nolgellau. Wedi seibiant bwrwyd ymlaen am Lanycil.

Yn gyntaf gwelwyd lluniau a roddai gefndir yr ymdrech i ddatblygu’r safle. Aethpwyd wedyn i Eglwys Beuno Sant a brynwyd gan Gymdeithas y Beiblau yn 2007. Yno gwelwyd arddangosfa o hanes taith Mary Jones o Lanfihangel y Pennant i’r Bala, 26 milltir a hithau ond 15 oed. Bu ei thaith a’i hysgogiad i dderbyn Beibl oddi wrth Thomas Charles yn sail i gychwyn Cymdeithas y Beiblau. Datblygodd y fenter hon i fod yn waith byd eang.

Roedd yr arddangosfa yn un cynhwysfawr, gwerth ei gweld, fel oedd yr eglwys a adnewyddwyd mewn modd sensitif ac effeithiol.

Braf oedd ail edrych ar hanes adnabyddus Mary ond hefyd ddysgu nifer o ffeithiau newydd. Yn eu plith fod Mary wedi byw hyd ei bod yn 80 oed ond iddi golli pump o’i phlant. Felly bywyd digon trist gafodd hi ar lefel bersonol..

Teithiwyd ymlaen wedyn tuag at Yr Ysgwrn gan alw yn Nhrawsfynydd i weld cofeb Hedd Wyn. Cyflwynwyd hanes Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) gan John Phillips. Disgrifiwyd ei fywyd cyn canolbwyntio ar ei gyfnod olaf yn y rhyfel.

Nodwyd yr anafwyd Hedd Wyn ym mrwydr Pilckem Ridge yng Ngwlad Belg a bu farw mewn llecyn Cymorth Cyntaf nid nepell i ffwrdd.

Yn ddiarwybod i eisteddfodwyr Birkenhead yn 1917 ef oedd enillydd y gadair am ei awdl ‘Yr Arwr’. Pan gyhoeddodd yn archdderwydd yr enillydd ‘Fleur de Lys’ a chael dim ymateb rhoddodd wybod i’r dyrfa iddo gael ei ladd yn y rhyfel – diwrnod trist i’r Eisteddfod Genedlaethol felly ac i deulu Hedd Wyn.

Yn ôl ar y daith dyma gyrraedd Yr Ysgwrn a derbyn croeso twymgalon yno. Disgrifiwyd sut yr addaswyd y fferm a’r tir o’i chwmpas a chreu yr hyn sydd yno heddiw. Gwelwyd arddangosfa arall cyn mynd i’r ffermdy ei hun lle gellid dychmygu bywyd y teulu.

Yno hefyd roedd modd gweld nifer o gadeiriau a enillwyd gan Hedd Wyn gan gynnwys cadair Birkenhead.

Trist oedd meddwl am Ellis. Dyma ddyn ifanc a fu’n ffermio mewn llecyn hudolus o brydferth ond a fu farw yn erchylltra maes y gad.

Wedi synfyfyrio a dychwelyd i’r bws dyma ein cludo i dderbyn swper gyda’n gilydd yn y Llew Du yn Nhalybont.

Diolchwyd i Twynog am dywys y wibdaith gan Philip Lodwick a derbyniodd John Phillips a John Davies (trysorydd) ddiolch am eu cyfraniadau hwythau.

Cafwyd diwrnod i’w gofio unwaith eto ac ymunwyd â Philip i ddiolch yn gynnes iawn i Twynog am drefnu mewn modd mor effeithiol.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]