THE latest community news from Lampeter
Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen
Cynhelir Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan yn Ysgol Bro Pedr ar 25, 26 a 27 o Awst.
Agorir yr W?l ar y Sadwrn am 1.30yp gan Delyth Morgans Phillips, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ac yna cynhelir cystadlaethau i blant ac ieuenctid lleol. Hefyd yn ystod y prynhawn bydd seremoni Coroni’r bardd ynghyd â seremoniau Cadeirio’r bardd a’r Tlws Ieuenctid dan 25 a chystadlaethau amrywiol yn cynnwys canu emyn dros 50 oed, parti llefaru agored a Sgen ti Dalent.
Ar y bore Sul cynhelir Oedfa Undebol yn Eglwys San Pedr am 10.30yb a chystadleuaeth Llais Llwyfan Llambed am 7yh i gantorion ifanc dan 30 oed yn Ysgol Bro Pedr a’r wobr gyntaf yn £1,000.
Maer y dref, y Cynghorydd Ann Bowen Morgan fydd yn agor yr Eisteddfod fore Llun gyda’r cystadlaethau agored i blant, ieuenctid ac oedolion yn dilyn. Daw’r cyfan i ben gyda’r Brif Gystadleuaeth Llefaru a’r Her Unawd dros 21 oed.
Llywyddion yr W?l eleni yw: Eiry Jones, Maesyllan, Jeanette Massocchi, Y Fenni; a’r Aelod Seneddol Ben Lake.
Nos Lun cynhelir Talwrn y Beirdd yn festri Shiloh am 7yh a bydd yr arddangosfa gelf a chrefft fel arfer yn werth ei gweld.
Felly dewch yn llu i’r Eisteddfod eleni i fwynhau ac i werthfawrogi talent cantorion, llefarwyr ac offerynnwyr o fri. Bydd croeso cynnes yn eich aros.
Bridge club
THEY had their weekly session of bridge on Tuesday.
The top pairs were: 1 Andrew Phillips and Dai Hayes 64 per cent; 2 Keith Bellamy and John Evans 56 pc; 3 Gwenda Davies and Martin Davies 53 pc.
The club meets every Tuesday at 6.45pm at Hafan Deg Retirement Home.
They’re always pleased to welcome learners and new members.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.