THE latest community news from Lampeter
Royal British Legion
THE next meeting will be held on Monday, 25 February at 7pm. Please note the new venue is The Castle Green in Bryn Road.
St Peter’s Church
SUNDAY, 24 February: 8am, Holy Communion in English; 9.15am, Cymun Bendigaid (communion in Welsh); 10.30am, Holy Communion in English.
Shiloh a Soar
CYNHALIWYD dau gyfarfod hynod lwyddiannus o dan nawdd y gymdeithas uchod. Ar brynhawn Iau, 24 Ionawr, roedd y cyfarfod yng ngofal y ffotograffydd profiadol Tim Jones a’r testun dan sylw oedd ‘Cwis ar Lun’. Gwelwyd nifer o luniau o bell ac agos a llawer un o’r aelodau yn chwilio am ffrind er mwyn dyfalu yr ateb cywir. Cafwyd llawer o hwyl ac ansawdd y lluniau yn adlewyrchiad o ddawn Tim fel ffotograffydd. Diolchodd y llywydd, Huw Jenkins, i Tim am baratoi’r cwis ac am orig ddiddorol ac addysgiadol. Dyma’r drydedd flwyddyn i’r gymdeithas drefnu ffilmiau o waith ymchwil amrhrisiadwy Bethan Phillips. Ar brynhawn Iau, 7 Chwefror, roedd y festri yn llawn wrth i ni ail brofi dau o lofryddiaethau erchyll yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yn ystod y ganrif ddiwethaf, sef hanes y mab ansefydlog ym Mlaenllysgog Cwrtycadno yn llofruddio y meddyg teulu ac yn Llwyntywyll, Llansadwrn lle llofruddiwyd perchen y ffarm gan un o’r gweithiwyr yn dilyn ei ymddygiad erchyll. Diolchodd Twynog Davies yn gynnes i John Phillips am drefnu’r cyfarfod ac am barhau i ddod â gwaith Bethan yn fyw i ni a chan fod pawb ohonom yr pryd yn cofio yn dyner amdani yn ei gwaeledd yng Nghartref Blaenos Llanymddyfri. Braf oedd cael cefnogaeth mor deilwng i’r ddau gyfarfod.
Merched y Wawr
ESTYNNWYD croeso cynnes gan Elin, y llywydd, i lu o ddysgwyr oedd wedi ymuno â ni am noson o gymdeithasu ac arlunio. Cyn cychwyn y noson trafodwyd rhai dyddiadau pwysig i’w cofio: Ar 4 Mawrth, mae parêd yn Llanbed lle byddwn yn codi arian i Eisteddfod 2020 Ceredigion; ar 6 Mawrth, rydym yn dathlu Dydd G?yl Dewi gyda chawl yn y Pantri gyda Delyth am 4.30yp gyda’r gost yn £11.50; ac ar 6 Ebrill mae cwrs crefft y de yn cael ei gynnal yn TyGlyn Aeron o 10yb hyd 4yp. Mae cinio llywydd y de eleni yng Ngwesty’r Cliff yng Ngwbert ger Aberteifi ar 16 Mawrth gyda bws i’w drefnu. Cyflwynodd Elin y noson i Aerwen. Noson i ymlacio, joio a chymdeithasu tra yn dysgu rhai sgiliau defnyddio gwahanol bensilau oedd y bwriad. Er mwyn rhoi hyder i rai oedd ddim wedi gwned dim arlunio ers amser ysgol, dangosodd Aerwen beth o waith ei thad. Dechreuodd ef arlunio pan yn 80 oed ar ôl colli ei mham a chael llawer o bleser wrth wneud hynny. Yr ail ran o’r wers oedd defnyddio eu sgiliau i arlunio y pethau oedd o’u blaen e.e. wniwn coch wedi’i dorri yn ei hanner, tomato wedi’i dorri, ffosilau, penglogau anifeiliaid, cacti a gwahanol ffrwythau. Siaradodd am y sgiliau o edrych drosodd a throsodd, ac edrych yn ofalus am y rhannau golau, ble oedd y cysgodion er mwyn rhoi tonau yn eu llun a gallu eu dehongli ar bapur. Soniodd hefyd am faint y llun, dim llai mewn maint nai dwrn. Cafwyd noson o weithio dyfal gyda llawer o siarad a thrafod. Ar ôl mynd o amgylch a chynnig tipyn bach o gyngor fan hyn a fan draw, roedd yn wir syndod i weld y gwaith arbennig gafodd eu greu. Gwnaethpwyd arddangosfa o’r gwaith a thra fu pawb yn cael diod a bwyd blasus iawn wedi eu baratoi gan y pwyllgor, cafodd pawb gyfle i edrych ar waith eu gilydd. Noson hapus gyda llawer wedi ailddarganfod sgiliau y byddant yn para i ddefnyddio yn bellach ar ben eu hunain neu efallau trwy ymuno a dosbarth arlunio. Diolch i Ann Davies, Olmarch am eu chymorth ac i bawb arall a fu’n helpu. Diolchodd Rajesh David dros y dysgwyr am y croeso cynnes, am y cyfle i ddysgu sgiliau arlunio trwy noson o gymdeithasu ac am luniaeth mor flasus.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.