THE latest community news from Lampeter

Cylch Cinio

CYNHALIWYD cyfarfod G?yl Dewi Cylch Cinio Llanbed ar 7 Mawrth yng Nghlwb Rygbi Llanbed dan lywyddiaeth Eifion Williams, ac yn ôl yr arfer fe groesawyd gwragedd a chyfeillion yr aelodau i’r cyfarfod olaf hwn o’r tymor.

Braf oedd gweld dros hanner cant yn bresennol. Eleni eto fe ddathlwyd yr ?yl trwy gerddoriaeth a chân. Y gwesteion eleni oedd Côr Seingar ac wedi mwynhau’r wledd arbennig o luniaeth a ddarparwyd, cafwyd gwledd o adloniant i ddilyn.

Côr cymysg ifanc o Gaerfyrddin yw Côr Seingar ac ers iddo gael ei ffurfio yn 2004 mae ei aelodaeth wedi tyfu o 16 i 50 a’i enwogrwydd hefyd wedi tyfu trwy lwyddiant eisteddfodol a chyhoeddi CD.

Y mae cysylltiad Seingar a Llanbed a’r Cylch Cinio ei hun yn un cryf iawn gan mai Heulyn, un o feibion y diweddar Arthur Roderick, sy’n camu o’u plith i gyflwyno a diddanu a’i gymar Nicki yw eu harweinydd. Gydag Elin Mair Rees yn cyfeilio cafwyd rhaglen gyfoes ac amrywiol ganddynt a oedd yn addas iawn i ddathliad G?yl Dewi gan ddechrau gyda Cod i ddeffro (Let the river run o waith Carly Simon) a Bydded i (cyfieithiad Meredudd Jones o May it be gan Enya o drac sain y ffilm Lord of the Rings).

Cafwyd tipyn o hiwmor gan Heulyn wrth iddo gyflwyno pedwar llais y côr ac yn wir yr oedd y pedwar llais yn gryf a chytbwys trwy gydol y noson gan yr 11 soprano ac alto a’r naw o denoriaid a baswyr oedd yn ffurfio’r côr ar y noson. Aethant ymlaen i gyflwyno Anfonaf angel (alaw gan Robat Arwyn i eiriau gan Hywel Gwynfryn) a Hedfan fry (cyfieithiad Tudur Dylan Jones o Defying gravity gan Idina Menzel a Kristin Chenoweth o’r sioe gerdd Wicked).

Yna cafwyd dwy unawd soprano hyfryd gan Carys Richards sef O nefol addfwyn oen i alaw Robat Arwyn a Cymru Fach (geiriau Elfed ac alaw David Richards) cyn i’r côr ysgafnhau’r arlwy gyda Yn yr hwyl (In the mood – cân o waith Joe Garland a gysylltir â Glenn Miller). Dilynwyd honno gan Rwy’n dy weld yn sefyll o’r sioe gerdd Ann o waith Penri Roberts, Derec Williams a Linda Gittins cyn gorffen gyda O Gymru (alaw Rhys Jones i eiriau Leslie Harris, sef tad Mrs Anna Morgan, Maer Llanbed eleni).

Mynnodd y gynulleidfa gael ‘encore’ a gwnaethant ymdrech ardderchog trwy gyflwyno medli allan o’r sioe gerdd Lion King (caneuon gan Elton John a Tim Rice) yn cynnwys unawdau gan Meredudd Jones a Mair Jones.

Diolchwyd i Gôr Seingar gan y Parch Goronwy Evans am gyngerdd a fwynhawyd gan bawb gan sôn, gyda Mrs Roderick yn eistedd gerllaw, am ei adnabyddiaeth hir o’r teulu Roderick yn Llanbed.

Yn ddiweddglo i’r tymor fe drosglwyddodd Eifion Williams lywyddiaeth y Cylch i Haydn Richards gan ddiolch i’w gyd swyddogion a chan groesawi John Davies, Tynlofft, yn is-lywydd. Diolchodd hefyd i Gegin Gwenog am eu gwasanaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

Aeth y llywydd newydd ymlaen i ddiolch i Mr Williams ac i’w longyfarch ar dymor llwyddiannus. Swyddogion eraill y cylch am y tymor nesaf fydd y bonheddwyr Tom James (trysorydd), Tim Jones (ysgrifennydd cyffredinol), Twynog Davies (ysgrifennydd siaradwyr) a Richard Marks (swyddog y wasg).

Fe fydd y cylch yn ymgynnull eto yn yr hydref pan groesawir unrhyw aelodau newydd fydd yn awyddus i ymuno.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]