THE latest community news from Lampeter

Capel Brondeifi

WRTH edrych yn ôl ar oedfaon, ar 14 Gorffennaf, Ioan Wyn Evans fu’n cymryd y gwasanaeth boreol, a’r Parch Goronwy Evans yn gweinyddu Cymundeb ar y Sul canlynol.

Wedi seibiant yn ystod mis Awst oherwydd y cyfnod gwyliau, ail-gydiwyd yn yr awenau ddechrau Medi. Melda Grantham gymerodd y gwasanaeth ar 1 Medi, cyn i’r gweinidog, y Parch Alun Wyn Dafis, ddychwelyd i’r pulpud ar 15 Medi, gydag oedfa yn y Festri. Yna ar 22 Medi cafwyd gwasanaeth gan y gweinidog yn y capel.

Ar 19 Mehefin, trefnwyd taith ar gyfer aelodau’r capel a ffrindiau i ymweld ag arddangosfa ffasiwn yng Nghaerfaddon. Cafwyd diwrnod diddorol a hwylus tu hwnt, a phwrpas yr ymweliad oedd i gael blas ar gasgliad ffasiwn diwedd blwyddyn Heini Thomas, wrth iddi raddio yng Nghaerfaddon.

Ar 28 Gorffennaf roedd y Parch Goronwy Evans yn gwasanaethu yng Nghapel Soar y Mynydd. Aeth torf dda o Frondeifi yno i’w gefnogi. Ar y ffordd adre gwnaeth nifer o’r gynulleidfa fanteisio ar y cyfle i fwynhau te prynhawn gyda’i gilydd yn Riverbank, Tregaron.

Gwnaeth y Parch Goronwy Evans ddychwelyd i bulpud Soar y Mynydd ar 13 Hydref ar gyfer Cwrdd Diolchgarwch - hwn oedd gweithgaredd olaf y tymor yn yr hen gapel.

Cynhelir Cwrdd Diolchgarwch Brondeifi am 2yp ar 20 Hydref gyda’r Parch Aled Gwyn yn gwasanaethu.

Mae llwybrau newydd wedi eu gosod yn y fynwent ym Mrondeifi. Maen nhw’n edrych yn arbennig, ac mae’r ymateb wedi bod yn wych, gyda sawl aelod, a rheini sydd â chysylltiadau gyda Brondeifi, yn cyfrannu yn hael tuag at y gost. Diolch yn fawr iddyn nhw am eu caredigrwydd.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]